Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£8.5m i wella bywyd i bobl anabl yn eu cartrefi

Wrth i’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl gael ei nodi ledled y byd, aeth y Gweinidog Cyllid a Chydraddoldebau i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn grymuso pobl sy’n agored i niwed.
Dydd Sadwrn 03 Rhagfyr 2011

Ddoe (dydd Gwener 2 Rhagfyr), ymwelodd y Gweinidog, Jane Hutt, â theulu’r Dixons yn Llaneirwg i weld sut mae grant i wella cyfleusterau wedi gwella ansawdd eu bywyd gartref.

Mae Mr Dixon, sydd â nam symudedd, wedi elwa ar addasiadau i’w ystafell ymolchi a’r fynedfa i’w gartref, diolch i Grant Addasiadau Ffisegol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Roedd y gwaith gwerth £3,752 yn cynnwys lledu’r ffordd at y tŷ a gosod cawod gyda mynediad ar un lefel. Cwblhawyd y gwaith ym mis Hydref ac mae wedi gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, sy’n gyfrifol dros Gydraddoldebau:

"Roedd yn bleser cyfarfod â theulu’r Dixons a hoffwn ddiolch iddyn nhw am fy nghroesawu i’w cartref er mwyn imi gael gweld drosof fy hunan y manteision gwerthfawr sydd wedi deillio o’r Grant Addasiadau Ffisegol.

"Mae’r addasiadau a’r newidiadau hyn wedi hybu annibyniaeth trwy ei gwneud yn haws i Mr Dixon fynd i’w gartref a’r gawod. Felly dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi mwy o arian i gronfa’r grant hwn trwy dynnu arian o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog i helpu’r pethau hyn i ddigwydd."

Ariennir y Grant Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn yr achos hwn Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin, yn gallu gwneud yr addasiadau angenrheidiol y mae therapydd galwedigaethol y preswylydd yn gofyn amdanynt.

Cafodd £8.5 miliwn ei neilltuo ar gyfer y grantiau hyn yn 2011/12, ac o’r swm hwnnw mae £7 miliwn yn dod o gyllid y Grant Tai Cymdeithasol ac £1.5 miliwn o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog.

Mae cynnydd mawr yn y galw am y grantiau hyn.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 03 Rhagfyr 2011 Tai Programme for Government - Equality Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i