Ddoe (dydd Gwener 2 Rhagfyr), ymwelodd y Gweinidog, Jane Hutt, â theulu’r Dixons yn Llaneirwg i weld sut mae grant i wella cyfleusterau wedi gwella ansawdd eu bywyd gartref.
Mae Mr Dixon, sydd â nam symudedd, wedi elwa ar addasiadau i’w ystafell ymolchi a’r fynedfa i’w gartref, diolch i Grant Addasiadau Ffisegol oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Roedd y gwaith gwerth £3,752 yn cynnwys lledu’r ffordd at y tŷ a gosod cawod gyda mynediad ar un lefel. Cwblhawyd y gwaith ym mis Hydref ac mae wedi gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, sy’n gyfrifol dros Gydraddoldebau:
"Roedd yn bleser cyfarfod â theulu’r Dixons a hoffwn ddiolch iddyn nhw am fy nghroesawu i’w cartref er mwyn imi gael gweld drosof fy hunan y manteision gwerthfawr sydd wedi deillio o’r Grant Addasiadau Ffisegol.
"Mae’r addasiadau a’r newidiadau hyn wedi hybu annibyniaeth trwy ei gwneud yn haws i Mr Dixon fynd i’w gartref a’r gawod. Felly dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi mwy o arian i gronfa’r grant hwn trwy dynnu arian o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog i helpu’r pethau hyn i ddigwydd."
Ariennir y Grant Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn yr achos hwn Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin, yn gallu gwneud yr addasiadau angenrheidiol y mae therapydd galwedigaethol y preswylydd yn gofyn amdanynt.
Cafodd £8.5 miliwn ei neilltuo ar gyfer y grantiau hyn yn 2011/12, ac o’r swm hwnnw mae £7 miliwn yn dod o gyllid y Grant Tai Cymdeithasol ac £1.5 miliwn o’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog.
Mae cynnydd mawr yn y galw am y grantiau hyn.











