Ymunodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Chydraddoldebau, ag aelodau’r gymuned ffydd a’u gwesteion yn y Sanatan Dharma Mandal a’r Ganolfan Gymunedol Hindŵaidd yn Sblot i gael cinio a dathlu’r Nadolig.
Yn ystod y dathliadau, dywedodd y Gweinidog:
"Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn amser arbennig o bwysig yn y calendr Cristnogol ac mae’n bleser bod yma gyda chi heddiw i gymryd rhan yn eich parti dathlu’r Nadolig.
"Dw i wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dinesydd yn cael ei barchu ac yn cael y cyfle i gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd ein gwlad, trwy hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Fy nghred yw na ddylai neb yng Nghymru orfod byw mewn ofn oherwydd gwahaniaethu ar sail hil, credo neu ddiwylliant."
Cafodd y Ganolfan ei phrynu, ac mae’n gwasanaethu fel teml ac fel canolfan gymunedol. Defnyddir yr adeilad i gynnal digwyddiadau cymdeithasol a ddiwylliannol, yn ogystal â gweithgareddau rheolaidd fel dosbarthiadau cadw’n heini a ioga.











