Mewn araith ar achlysur lansio Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, bydd Jane Hutt yn gofyn iddynt ddefnyddio eu cylch gwaith newydd i edrych yn fanwl ar effaith gwariant ar lefel y DU. Bydd y Gweinidog hefyd yn gofyn i’r rhwydwaith ystyried effaith Cyllideb Llywodraeth Cymru ar fenywod ar draws Cymru.
Bydd Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod Cymru, a dderbyniodd gyllid y mis hwn, yn rhoi llais i’r holl sefydliadau sy’n cynrychioli menywod ledled Cymru ac yn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru wrth iddi asesu effaith ei gwaith ar fenywod.
Gwaith y rhwydwaith fydd cynyddu dylanwad menywod ar gymdeithas Cymru a datblygu ffyrdd i fenywod allu ddylanwadu ar y strategaethau a’r polisïau sy’n effeithio arnynt.
Bydd y Gweinidog Cydraddoldeb Jane Hutt yn dweud:
“Does dim dwywaith amdani - bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai anodd i fenywod. Bydd penderfyniadau llywodraeth y DU ynghylch y Gyllideb, gan gynnwys torri budd-daliadau a lwfansau, yn cael effaith uniongyrchol ar fenywod. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnal Asesiad o Effaith ein Cyllideb ar Gydraddoldeb a bydd modd i Rwydwaith Menywod newydd Cymru ddefnyddio’i gylch gorchwyl i ofyn am farn menywod yng Nghymru ar y toriadau i wariant ar lefel y DU a’n gwaith ni ein hunain fel Llywodraeth.”
“Datblygiad allweddol arall yn ystod y misoedd i ddod fydd cyflwyno’r Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru, sy’n ei gwneud yn allweddol i bob awdurdod lleol drin pawb yn deg. Mae hyn hefyd yn rhywbeth yr ydw i’n awyddus i’r rhwydwaith gydweithio’n agos â ni arno er mwyn inni allu clywed barn menywod.”
Dywedodd cadeirydd y Rhwydwaith, Kirsty Davies:
“Mae’r mudiad menywod wedi datblygu mewn ffordd organig, gyda llawer o fenywod yn chwarae eu rhan mewn grwpiau bach neu drwy gyfrwng sefydliadau eraill. Nawr yw’r amser i gydweithio er mwyn creu Cymru deg, ac rydym ni am fanteisio ar arbenigedd a brwdfrydedd yr holl fenywod yng Nghymru sy’n gweithio i sicrhau cydraddoldeb. Rydym ni hefyd eisiau trafod â menywod ledled Cymru - gan gysylltu â menywod ym mhob un o’n cymunedau i ofyn iddynt pa newidiadau y maent am eu gweld.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leddfu effeithiau toriadau Llywodraeth y DU ar y rhai mwyaf difreintiedig yng nghymdeithas Cymru, yn ogystal â gweithio i sicrhau bod ei gwaith hi ei hun fel Llywodraeth yn creu Cymru decach. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiadau o effaith ei phenderfyniadau ariannol ei hun ar gydraddoldeb.
Ar hyn o bryd mae’n gofyn am farn pobl ynghylch unrhyw anghydraddoldebau y maent yn eu gweld yng Nghymru drwy gyfrwng arolwg a sesiynau wyneb yn wyneb gyda grwpiau sy’n amrywio o famau newydd yn Sir Fynwy i weithwyr swyddfa yn Abertawe. Bydd arolwg Rhoi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar Waith yng Nghymru yn cau ar 2 Rhagfyr, a bydd y canlyniadau’n helpu i lywio gwaith Llywodraeth Cymru ar y Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru.
Y dasg fydd ymchwilio i effaith y toriadau mewn gwariant ar lefel y Deyrnas Unedig, ynghyd ag effaith Cyllideb Llywodraeth Cymru, ar fenywod Cymru.











