Wrth siarad yn ystod derbyniad yn y Senedd, dywedodd Jane Hutt: "Mae gan Anabledd Cymru bob hawl i fod yn falch o'r holl bethau y mae wedi'u cyflawni ar ran pobl anabl yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn llais cryf a chyson sydd wedi lobïo ar bob lefel i wella bywydau'r rheini sy'n wynebu rhwystrau yn eu bywydau bob dydd.
"Mae agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn bygwth tanseilio'r llwyddiant a gafwyd wrth hyrwyddo cynhwysiant a hefyd annibyniaeth pobl anabl. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein pwerau i leihau effeithiau'r agenda honno.
"Dw i am i Gymru fod yn wlad sy'n gwerthfawrogi pobl anabl ac yn croesawu'r hyn y maen nhw'n ei gyfrannu at ein cymdeithas. Byddwn yn parhau i weithio'n agos ag Anabledd Cymru i fynd i'r afael ag unrhyw beth sy'n rhwystr i hynny.
"Dw i'n gwybod fy mod i'n gallu dibynnu ar Anabledd Cymru i gymryd rhan flaengar yn y gwaith a wneir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a mudiadau cyhoeddus a phreifat eraill. Bydd yn gwneud hynny lle bynnag y bydd yn gallu dylanwadu ar faterion o bwys sy'n effeithio ar bobl anabl."
Dywedodd Jane Hutt:
"Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol ar gyfer pobl anabl. Rydyn ni am gael gwared ar unrhyw rwystrau sefydliadol, amgylcheddol, neu o ran agwedd, sy'n gallu peri anableddau mwy na'r anableddau neu gyflyrau iechyd sydd gan unigolyn.
"Mae Anabledd Cymru yn gweithio'n agos gyda ni i ddatblygu'r Fframwaith a hoffwn ddiolch iddo am ei gymorth wrth inni fynd ati i ymgysylltu â chynifer o bobl anabl â phosibl ledled Cymru.
"Trwy nodi pryderon mwyaf unigolion a'r mudiadau sy'n cynrychioli pobl anabl, gallwn geisio dod o hyd i atebion ymarferol gan hyrwyddo agweddau cadarnhaol sy'n helpu pobl i gyflawni eu nodau a chyfrannu at eu cymunedau."











