Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn datgelu camau i ddileu troseddau casineb

Mae’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd yng ngofal cydraddoldebau wedi amlinellu camau positif i ddelio â throseddau casineb.
Dydd Gwener 03 Chwefror 2012

Cyhoeddodd Jane Hutt y bydd fframwaith yn cael ei greu i fynd i'r afael â phob math o droseddau casineb, gan gynnwys aflonyddu ar sail anabledd, yn ogystal ag aflonyddu ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac yn erbyn pobl drawsrywiol. Bydd ymgynghori cadarn a thystiolaeth glir yn ategu hyn.

Yn gefn i'r dull hwn o weithredu mae cynlluniau realistig y mae modd eu cyflawni yn sgil cydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cymru a'u partneriaid.

Dywedodd y Gweinidog Jane Hutt:

"Mae troseddau casineb yn warthus ac yn annerbyniol. Rwyf wedi ymrwymo i Lywodraeth Cymru'n dangos arweiniad cryf yn y materion hyn.

"Mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i amddiffyn y rhai sy'n fwyaf agored i gael eu haflonyddu mewn cymdeithas, ac i sicrhau bod pobl anabl a'r rhai sy'n dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor yn gallu byw eu bywydau heb ofn.

"Credaf fod yna gyfle rhagorol, o dan y dyletswyddau cydraddoldeb penodol newydd yng Nghymru, i gydweithio'n agos â sefydliadau sector cyhoeddus i fynd i'r afael â'r materion penodol hyn ac ymateb iddynt.

"Rwyf am wneud yn si?r ein bod yn byw mewn cymdeithas lle nad yw pobl yn goddef troseddau casineb, fel y gall pobl Cymru deimlo'n rhydd i fyw o fewn cymunedau diogel a bywiog."

Mae mynd i'r afael â throseddau casineb yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Cafwyd rhagolwg o'r cynlluniau hyn mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru.

Mae Ms Hutt hefyd wedi pwysleisio ei bod yn ymrwymedig i adeiladu ar ymchwil ddiweddar a wnaed i droseddau casineb, ac yn y dyfodol agos bydd yn comisiynu gwaith a fydd yn edrych yn fanwl ar y rhai sy'n gyfrifol am droseddau casineb a'u cymhellion.

Cynhelir trafodaeth ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldebau a Llywodraeth Leol ar Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddydd Mercher 22 Chwefror 2012.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 03 Chwefror 2012 Programme for Government - Equality Programme for Government - Safer Communities Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i