Heddiw, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cydraddoldebau wedi cyhoeddi cyllid o hyd at £2,500 i 16 o sefydliadau sy’n cynnal dathliadau ar 8 Mawrth.
Mae cyfanswm o £33,343 wedi ei ddyfarnu ledled Cymru.
Mae cydraddoldeb i bawb yn thema gyffredin trwy gydol y Rhaglen Lywodraethu, ac mae darparu grantiau fel y rhain yn ymrwymiad allweddol i hyrwyddo cymdeithas deg.
Wrth siarad yng Nghynhadledd Hyrwyddwyr Cydraddoldeb GIG a CLlLC, dywedodd y Gweinidog:
"Dwi’n falch o gyhoeddi llwyddiant cynifer o sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid i gefnogi eu digwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012.
"Ledled y byd, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dathlu llwyddiannau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol menywod, ac yn cydnabod yr heriau a’r gwahaniaethu sy’n parhau i wynebu nifer o fenywod heddiw.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau fod gan pob dinesydd yng Nghymru y cyfle i gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rydyn ni i gyd am gael cymdeithas sy’n rhoi gwerth ar bobl fel unigolion, ble y gwelir amrywiaeth a chydraddoldeb a pharch i bawb, a bod gwahaniaethu o bob math yn cael ei ddileu."
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y wlad:
Digwyddiadau Ledled Cymru
• Masnach Deg Cymru
• Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru
• NIACE Dysgu Cymru
• Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
• Cymorth i Fenywod Cymru
Caerdydd
• Yr Eglwys yng Nghymru
• Rhwydwaith Ffeministiaeth Caerdydd
Caerdydd a’r Barri
• Cymdeithas Celfyddydau Menywod
Casnewydd
• Soroptimyddion Rhyngwladol Casnewydd a’r Ardal
Merthyr Tudful
• Morphious Ltd
Y Fenni
• Arts Alive Cymru
Abertawe
• MEWN Abertawe
• Canolfan Fenywod Abertawe
• Women4Resources
Llanelli
• Cymunedau yn Gyntaf Glanymor a Thyisha
Wrecsam
• Grŵp Cymorth Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Wrecsam











