Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn helpu pobl anabl i gael gwaith

Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Remploy am gynnal prosiect newydd i roi mwy o gyfleoedd gwaith i bobl anabl.
Dydd Gwener 10 Chwefror 2012

Bydd rhaglen cyfnewidcymru yn cynnal 'prawf o gysyniad', sef peilot ar gyfer y prosiect, lle bydd gweithwyr yn sganio anfonebau i rai o gyrff cyhoeddus Cymru.

Bydd y prosiect yn para rhyw wyth wythnos o Ebrill 2012.  Mae awdurdodau lleol ym Merthyr Tudful, Abertawe a Sir y Fflint yn cymryd rhan.
Meddai'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y T?, Jane Hutt AC:

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu defnyddio gwasanaethau cyflogi arbenigol Remploy i dreialu'r rhaglen bwysig hon.

"Mae darparu swyddi â chymorth yn ffordd ragorol i roi gwaith cyflog i bobl anabl ac i helpu'r rheini sydd wedi bod heb waith ers amser yn ôl i weithio.

"Hefyd, bydd troi anfonebau papur yn anfonebau electronig yn arbed llawer o arian i sector cyhoeddus Cymru; felly bydd y sector cyhoeddus a'n cymunedau ar eu hennill o'r fenter hon."

Meddai Alan Hill, Cyfarwyddwr Busnesau Menter Remploy:

"Mae'n bleser cael gweithio gyda Llywodraeth Cymru.  Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhoi gwasanaeth unigryw i gynghorau Cymru ac yr un pryd, yn rhoi gwaith i bobl anabl."

Amcangyfrifir bod sector cyhoeddus Cymru yn prosesu rhwng pedair a phum miliwn o anfonebau bob blwyddyn.

Un o amcanon rhaglen cyfnewidcymru yw sicrhau arbedion trwy gynyddu nifer yr anfonebau electronig sy'n cael eu derbyn o'u cymharu â'r anfonebau papur traddodiadol.

Mae gan y peilot y potensial i sganio hyd at un miliwn o anfonebau bob blwyddyn, gan roi swyddi sefydlog i bobl anabl.


 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 10 Chwefror 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i