Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Fforwm Hil Llywodraeth Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf

Rhaid i bawb gael yr un cyfleoedd, waeth beth yw eu hil, eu cred a’u diwylliant. Dyna oedd neges Jane Hutt, y Gweinidog Cydradddoldeb, wrth gadeirio cyfarfod cyntaf Fforwm Hil Cymru.
Dydd Mercher 22 Chwefror 2012

Wrth gwrdd â chynrychiolwyr mudiadau’r trydydd sector a grwpiau cydlyniant cymunedol o wahanol ranbarthau, pwysleisiodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn dal ati i wneud ei gorau i sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn byw dan ofn rhagfarn.

Dywedodd Jane Hutt:

"Rydw i wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru. Beth bynnag yw cefndir pobl, fe ddylen nhw gael yr un cyfleoedd â phawb arall.  

"Bydd y Fforwm Hil yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd ati’n strategol ar lefel genedlaethol i edrych ar Gydraddoldeb Hil. Bydd yn sicrhau bod cyrff a mudiadau sydd â diddordeb mewn materion hil yn cael cyfle i leisio’u barn ar  faterion polisi perthnasol.

"Gan y Fforwm fe gawn ni’r cymorth a’r cymorth sydd eu hangen arnom er mwyn deall y materion a’r rhwystrau sy’n wynebu cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a sut gellir eu goresgyn. Bydd hefyd yn ein helpu i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ynghylch gwybodaeth berthnasol er mwyn datblygu amcanion cydraddoldeb clir a phenodol."


 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Hawliau a chydraddoldeb

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 22 Chwefror 2012 Cydlyniant cymunedol Programme for Government - Equality Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i