Sefydlwyd y cynllun gwobrau hwn er cof am Philip Lawrence, y pennaeth ysgol a gafodd ei lofruddio. Mae’r cynllun ar waith ledled y DU ac mae’r gwobrau’n cael eu rhoi i ddathlu’r cyfraniad positif y mae pobl ifanc yn ei wneud i’w cymunedau, wrth iddynt fynd ati i herio stereoteipiau a gweithio i atal trosedd, trais a hiliaeth.
Grŵp o bobl ifanc rhwng 11 – 25 oed yw Vale Youth Speak Up. Mae’n tynnu sylw at y problemau sy’n wynebu pobl ifanc anabl oherwydd gwahaniaethu a bwlio, ac yn ceisio gwneud rhywbeth yn eu cylch.
Dywedodd Jane Hutt:
"Hoffwn longyfarch pawb sy’n gysylltiedig â Vale Youth Speak Up ar ennill un o Wobrau Philip Lawrence.
"Maen nhw wedi mynd ati mewn modd gwir greadigol i dynnu sylw at y materion pwysig hyn, a dw i’n falch iawn bod eu holl waith caled wedi cael ei gydnabod.
"Mae thema eu prosiect – mynd i’r afael â gwahaniaethu a bwlio – hefyd yn flaenoriaeth i ni yn Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei chynnwys yn benodol yn ein Rhaglen Lywodraethu. Rydyn ni am annog pawb i herio sylwadau a gweithredoedd annerbyniol a chas.
"Mae prosiectau fel Vale Youth Speak Up yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleol. Dw i’n gobeithio y bydd y grŵp hwn yn parhau i wneud cyfraniad positif i fywyd ym Mro Morgannwg, gan ysbrydoli pobl ifanc eraill ledled Cymru i wneud yr un peth."











