Bydd Jane Hutt yn mynd ati i adeiladu ei thyrbin gwynt ei hunan o'r newydd, ochr yn ochr â 30 o fenywod ifanc Blwyddyn 9 o ddeg o ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae'r gweithdy'n rhan o raglen Clwb Dydd Sadwrn Discover! sy'n cynnal gweithgareddau gwyddonol i ddangos yn ymarferol pa fath o yrfaoedd sydd ar gael mewn gwyddoniaeth, technoleg, adeiladu neu beirianneg.
Gyda'r rhaglen bellach yn ei chweched wythnos (o wyth), cynhaliwyd cyfarfod y gr?p yn yr Ysgol Beirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Hyd yn hyn, mae'r gr?p wedi cynnal gweithgareddau sy'n addysgu'r aelodau am y biowyddoniaethau, pensaernïaeth, seryddiaeth, arbed ynni ac ynni o'r haul, a pheirianneg feddygol.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Chydraddoldebau, Jane Hutt:
"Dw i'n edrych ymlaen ar yr her fydd yn cael ei gosod gan Glwb Dydd Sadwrn Discover!, a hefyd wrth gwrs at gyfarfod â'r menywod ifanc brwdfrydig hyn sy'n treulio'u hamser rhydd yn dysgu am ddiwydiannau lle mae dynion fel arfer yn tra-arglwyddiaethu.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod merched yn cael cyfle teg i fynd i swyddi o awdurdod, ac mae'n awyddus iawn i herio stereoteipiau rhyw. Mae'r rhaglen hon yn bwysig gan ei bod yn hybu'r ymdrechion hyn trwy ysbrydoli ac annog menywod ifanc Cymru i fod yn beirianwyr arloesol y dyfodol.
"Dw i'n falch o gael dweud mai rhaglen "a wnaed yng Nghymru" yw hon ac nad oes rhaglen hollol debyg iddi mewn unrhyw ran arall o Brydain.
"Bydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ledled y byd y dydd Iau hwn (8 Mawrth), ac mae'n gyfle i fenywod a merched ddod ynghyd i dynnu sylw at broblemau a hefyd ddathlu llwyddiannau. Dw i'n meddwl bod f'ymweliad heddiw'n amserol iawn gan y gallaf longyfarch aelodau'r clwb ar yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni a dymuno'n dda iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol."
Bob wythnos, bydd menywod sy'n wyddonwyr ac yn beirianwyr blaengar yn dod draw i helpu yn y sesiynau.
Mae Clybiau Dydd Sadwrn wedi bod yn elfen bwysig ers peth amser yn y gwahanol brosiectau sy'n cael eu rhedeg gan Bartneriaeth Busnes Addysg Gyrfa Cymru Caerdydd a'r Fro.
Mae'r cynllun hwn ar waith ledled Cymru, a bellach mae Gyrfa Cymru yn sicrhau bod y cyfleoedd a gynigir gan Glybiau Discover! ar gael ym mhob un o'i chwe rhanbarth.











