Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cychwyn da i’r diwrnod – Gweinidog yn gweld cynllun brecwast iach ar waith

Mae brecwastau am ddim i blant yn gychwyn maethlon i’r diwrnod ac yn helpu rhieni sy’n gweithio, yn ôl y Gweinidog heddiw.
Dydd Mawrth 10 Ionawr 2012
Cychwyn da i’r diwrnod – Gweinidog yn gweld cynllun brecwast iach ar waith
Cychwyn da i’r diwrnod – Gweinidog yn gweld cynllun brecwast iach ar waith

Yn gynharach, roedd Jane Hutt, y Gweinidog dros gydraddoldebau, wedi ymweld ag ysgol gynradd i weld y cynllun ar waith a'r manteision sy'n deillio ohono.

Roedd y Gweinidog yn Ysgol Gynradd Willowbrook yn Llaneirwg lle'r ymunodd â'r disgyblion a oedd yn mwynhau brecwast iach am ddim.

Dywedodd Ms Hutt:

"Roedd yn dda cael brecwast yng nghwmni disgyblion Willowbrook a gweld y gwahaniaeth y mae'r fenter hon yn ei wneud i fywydau plant Cymru a'u teuluoedd.

"Mae pobl yn cydnabod mai brecwast yw pryd pwysica'r diwrnod ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod brecwast iach yn gwella iechyd plant a'u gallu i ganolbwyntio, a hefyd yn gwella'u hymddygiad yn yr ysgol.

"Mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod plant yn cael mynd i le diogel i gychwyn eu diwrnod. Gall mamau fynd i'r gwaith heb orfod pryderi am ddod o hyd i ofal plant yn gynnar yn y bore na'r costau o dalu amdano."

Cyflwynwyd y fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yn hydref 2004 ac mae nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan wedi cynyddu'n gyson, gyda 72% o ysgolion cynradd Cymru  bellach yn cymryd rhan.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt:

"Pan gyhoeddais y gyllideb ddrafft yn yr hydref, y bwriad oedd sicrhau bod cymaint o adnoddau â phosibl ar gael ar gyfer y blaenoriaethau sy'n bwysig i bobl Cymru - yr economi, addysg ac iechyd. Mae'r cynllun brecwast yn rhoi hwb i bob un o'r rhain, yn ogystal â helpu i ddatrys problemau cydraddoldeb. 

"Mae diogelu buddion cyffredinol, gan gynnwys brecwast am ddim, yn un o brif ymrwymiadau ein Cyllideb. Bydd £10m ychwanegol yn cael ei wario ar y fenter bwysig hon er mwyn gwneud ein cymdeithas yn fwy cyfartal.

"Does dim amheuaeth y bydd menywod yn wynebu her fawr yn y dyfodol. Bydd y penderfyniadau cyllidebol sydd wedi'u gwneud gan Lywodraeth San Steffan, gan gynnwys toriadau i fudd-daliadau a lwfansau, yn effeithio'n uniongyrchol ar fenywod a'u teuluoedd.

"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â'n Cyllideb a bydd pob math o gydraddoldebau, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol, yn parhau'n un o'n prif flaenoriaethau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Menter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 10 Ionawr 2012 Cyllideb Yr economi Cymru iachach Programme for Government - Tackling Poverty Gwasanaethau cyhoeddus Ysgolion Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i