Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

"Mae naws groesawus i Gymru", meddai Jane Hutt

Mewn dathliad yn y Deml Heddwch yn Nghaerdydd, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cydraddoldeb, wedi helpu i lansio Wythnos y Ffoaduriaid - Cymru 2012.
Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2012

Thema Wythnos y Ffoaduriaid eleni yw "Dathlu Naws Groesawus Cymru", a dywedodd Jane Hutt y dylai Cymru fod yn falch o’r croeso cynnes y mae’n ei gynnig i ffoaduriaid.

Meddai Jane Hutt:

"Mae gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus o gynnig croeso cynnes i ffoaduriaid. Mae’r traddodiad croesawus yma yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dod i Gymru i geisio lloches, gan fod llawer ohonyn nhw wedi gorfod gadael eu teuluoedd a’u ffrindiau.

"Mae’n anodd iawn dechrau bywyd newydd mewn gwlad newydd, yn aml heb rwydwaith o bobl i’ch cefnogi, ac yn arbennig pan rydych wedi gadael dan amgylchiadau anodd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol a chymunedau o ffoaduriaid i sicrhau ein bod yn diwallu’r anghenion amrywiol sydd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid yma yng Nghymru.

Mae’r Gymru sydd ohoni yn gymdeithas sydd wedi ei seilio ar gymunedau amrywiol ac amlddiwylliannol o bobl sy’n dod o bob math o gefndiroedd ac sydd â nodweddion a phrofiadau unigryw. Rydw i’n credu’n gryf mai dyna pam fod Cymru yn genedl mor fywiog."

Yng Ngorffennaf 2011, aeth Llywodraeth Cymru ati i gyhoeddi Cynllun Gweithredu ei Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Ers hynny, mae gwaith wedi ei wneud i symud y camau sydd yn y Cynllun Gweithredu yn eu blaenau, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan gyrff megis Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Partneriaeth Ymfudo Cymru, Alltudion ar Waith, Asiantaeth Ffiniau’r DU, a Chefnogi Eraill trwy Weithgarwch Gwirfoddol. Erbyn hyn, mae’r Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddiweddaru i ymgorffori’r gwaith a wnaed hyd yn hyn.

Ychwanegodd Jane Hutt:

"Bydd yn cymryd mwy o amser i wireddu rhai o amcanion y Cynllun Gweithredu, ond byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyrraedd y nod cyffredinol o rhoi cymorth i ffoaduriaid, a’u galluogi i ail-greu bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru ac i wneud cyfraniad llawn i’r gymdeithas."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 16 Mehefin 2012 Cydlyniant cymunedol Programme for Government - Equality Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i