Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y penodiad heddiw.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae Ann wedi gwneud cyfraniad sylweddol drwy hyrwyddo materion cydraddoldeb yng Nghymru ers iddi gael ei phenodi’n Gomisiynydd Cymru ym mis Rhagfyr 2009. Mae wedi cynrychioli Cymru yn llwyddiannus ar fwrdd y Comisiwn ac rwyf wrth fy modd y bydd yn parhau i gyflawni’r swyddogaeth honno.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i greu Cymru lle gall pawb fyw mewn cymdeithas ddiogel lle ceir chwarae teg. Rydym ni am weld pobl o bob math o gefndiroedd yn cydfyw’n gytûn mewn gwlad lle na fydd gwahaniaethu’n cael ei oddef.
"Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos ag Ann ar y materion pwysig hyn a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru."











