Mae'r Nadolig yn adeg o aduniad i deuluoedd a chyfeillion.
Mae'n adeg o'r flwyddyn i roi a rhannu - ac yn dymor i feddwl am eraill.
I'r rheini ohonom sy'n ddigon lwcus i gael mwynhau Gwyliau'r Nadolig gyda'n teuluoedd mewn amgylchiadau cyfforddus, braf mae'n ddigon hawdd anghofio nad yw pawb mor ffodus â ni.
Mae tlodi'n bla ar gymdeithas gartref a thramor, a thlodi plant yw'r math mwyaf annerbyniol yn ddi-os.
Nid wyf yn siarad am y plant hynny na fyddant yn cael y PlayStation diweddaraf o dan y goeden Nadolig. Rwy'n siarad am blant y mae eu teuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio hyd yn oed y pethau mwyaf sylfaenol mewn bywyd; bwyd, dillad a gwres yn eu cartrefi - os oes ganddynt do am eu pennau.
Dyna pam fod y llywodraeth hon yn benderfynol o fynd i'r afael â'r broblem benben, gan anelu i gael gwared ar dlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.
Mae'n dipyn o her. Eisoes rydym wedi gwneud cryn gynnydd, gyda miloedd yn llai o blant mewn tlodi o'i gymharu â 1999. Ond mae ffordd bell i fynd o hyd.
Dyna pam ein bod wedi llunio cynllun ar gyfer y degawd nesaf, gan ddefnyddio cryn dipyn o ymdrech, creadigrwydd a phenderfyniad i gyrraedd ein targed uchelgeisiol.
Bydd cael gwared ar dlodi plant yn golygu gwella'r cyfleoedd am waith, rhagolygon addysgol a chyfleusterau iechyd. Mae'n golygu symud y rhwystrau i gyflawni, gan wrthsefyll allgáu cymdeithasol. Mae'n golygu cyfoethogi bywydau a phrofiadau a chodi dyheadau plant Cymru.
Bydd yn golygu ymdrech anferthol a chynaliadwy ar draws holl adrannau Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â chymorth gan awdurdodau lleol a llywodraeth San Steffan.
Ond rwy'n benderfynol na fyddwn yn cilio rhag yr orchwyl hon ac y byddwn yn cyrraedd ein nod drwy gyd-weithredu a llawer o waith caled.
Rwyf o'r farn fod gan bobl Cymru aeddfedrwydd a hunanhyder newydd yn dilyn datganoli, ac o ganlyniad nid oes arnom ofn edrych y tu hwnt i'n ffiniau.
Ochr yn ochr â'n penderfyniad i fynd i'r afael â thlodi gartref, mae gennym uchelgais i weld Cymru'n chwarae ei rhan yn helpu'r sawl sy'n llai ffodus na ni dramor. Cymru o Blaid Affrica yw ein hymateb ni i'r frwydr fyd-eang i roi terfyn ar dlodi.
Mae trefi a phentrefi ledled Cymru wedi gefeillio â chymunedau yn Affrica. Er enghraifft, mae grŵp PONT ym Mhontypridd yn helpu grwpiau ym Mbale yn Uganda i gael cymorth i'r cymunedau tlotaf. Mae Bees for Development yn Sir Fynwy yn helpu pobl mewn ardaloedd anghysbell a thlawd i greu bwyd ac incwm drwy gadw gwenyn a helpu i beillio cnydau a phlanhigion gwyllt.
Yn gynharach eleni roedd yn bleser gennyf groesawu ymwelwyr o Dimbyctw ym Mali, sydd wedi gefeillio â'r Gelli Gandryll gan fod gan y ddwy ardal gysylltiadau llenyddol cryf.
Ers y cyhoeddiad am y gefeillio, bu Hay2Timbuktu yn llwyddiannus ar gael ei ddewis yn un o'r pum prosiect peilot yng nghynllun newydd cysylltu'r gymuned, Seren Aur.
Nod y prosiect Cymunedau Seren Aur yw cyfrannu at gynhyrchu fframwaith 'Seren Aur' o safonau ac arferion da, sy'n gydnaws â Nodau Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm o ran lleihau tlodi.
Mae peilot Cymru'n cael ei ddatblygu gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig, i gynhyrchu model ar gyfer adnabod a lledaenu partneriaethau cymunedol o ansawdd sy'n ymdrin â materion fel masnach gyfiawn a theg, newid yr hinsawdd a'r amgylchedd, hawliau plant a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae'r cynllun Seren Aur eto'n brawf nad yw Cymru wedi mynd yn wlad fewnblyg a hunanobsesiynol ers cychwyn datganoli ym 1999. Mae gan y Cymry enw da o ran eu hagwedd ryngwladol a'u dymuniad i helpu'r rheini mewn mannau eraill o'r byd, ac mae'r bartneriaeth ryngwladol newydd hon yn enghraifft wych o'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni trwy'r fframwaith Cymru o Blaid Affrica.
Felly, y Nadolig hwn rwy'n gobeithio y gwnewch ymuno â mi i feddwl am y plant hynny a'u rhieni yn y DU a thramor, sydd heb fod cystal eu byd â ni - ac ymuno â ni wrth adael tlodi ym min sbwriel hanes erbyn 2020.
Rhodri Morgan











