Bydd 2008 yn flwyddyn bwysig a chyffrous i Gymru.
Ond cyn imi edrych ymlaen i’r Flwyddyn Newydd, rwy eisiau cyfeirio at rai pethau pwysig a gyflawnwyd tuag at ddiwedd 2007.
Mae’r hanes am gwmni yswiriant Admiral yn dod yn rhan o fynegai 100 cwmni’r FTSE yn gamp aruthrol i gwmni o Gymru a sefydlwyd ond 14 mlynedd yn ôl.
Dyma lwyddiant Cymreig gwirioneddol ac mae’n profi bod gan y Cymry yr agwedd bositif sydd ei hangen. Mae Admiral wedi tyfu nid drwy brynu cwmnïau eraill ond drwy dwf organig pur. Mae wedi llwyddo, diolch i reoli deheuig, gweithlu ymroddedig a thrwy ddarparu’r gwasanaeth y mae cwsmeriaid ei eisiau.
Nhw yw’r ail gwmni yn unig o Gymru i dorri i mewn i fynegai 100 cwmni’r FTSE ers iddo ddechrau ym 1984. Mae eu llwyddiant yn profi bod cwmnïau sy’n dechrau yng Nghymru yn gallu cyrraedd lefelau uchaf cymuned fusnes y DU.
Rwy hefyd eisiau talu teyrnged i Joe Calzaghe, a wnaed yn Bencampwr Pwysau Uwch-Ganol cydnabyddedig y Byd, yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru ac yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn y DU, a’r cyfan o fewn mater o wythnosau.
Fel Ryan Giggs, sydd newydd dderbyn ei OBE haeddiannol iawn oddi wrth Ei Mawrhydi y Frenhines, mae Joe yn athletwr eithriadol, ac yntau wedi ennill 44 buddugoliaeth yn ystod ei yrfa 14 mlynedd ac wedi bod yn Bencampwr Byd ers 10 mlynedd.
Mae Ryan a Joe yn destun balchder i Gymru bob amser, boed yn yr arena chwaraeon y maent yn dangos y fath urddas ynddi neu’r tu allan iddi. Maen nhw’n fodelau rôl gwirioneddol i’n pobl ifanc.
Mae Syr Martin Evans a Syr John Houghton, ein dau enillydd Gwobr Nobel, hefyd yn ffigyrau eithriadol sy’n ysbrydoliaeth i’n gwyddonwyr a’n meddygon ifanc am y pethau gwych y maent wedi’u cyflawni mewn ymchwil celloedd bonyn a gwyddoniaeth sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd.
O ran iechyd, rwy’n disgwyl gweld gwaith yn dechrau ar Ysbyty Caerffili yn Ystrad Mynach, y bu hir ddisgwyl amdano, gan gyflawni addewid i bobl canol y cymoedd ym Morgannwg a Gwent 40 mlynedd yn ôl.
Rydyn ni wedi aros yn hir amdano ond roedd yn werth gwneud gan mai hwn fydd yr ysbyty cyntaf i’w adeiladu yng Nghymru yn yr 21ain ganrif, ac efallai’r cyntaf ym Mhrydain. Caiff ei adeiladu gyda’r nod o fod yn llawer mwy hyblyg, gyda mwy o ddefnydd o gyfleusterau ac adnoddau i gleifion allanol a llai o welyau i gleifion mewnol gan fod disgwyl i’r cyfnodau y bydd cleifion mewnol yn aros yn yr ysbyty fynd yn fyrrach ac yn fyrrach.
Rwy’n gobeithio hefyd y bydd y gwaith adeiladu ar ran nesaf yr Ysbyty Plant yng Nghaerdydd yn dechrau yn 2008 neu’n gynnar iawn yn 2009, fan bellaf, ac mae’n dal yn nod ei gwblhau cyn diwedd 2010.
Yn yr un modd, rwy’n gobeithio y bydd peiriannau adeiladu yn cyrraedd safle Sain Tathan i ddechrau gwaith ar yr academi hyfforddi milwrol £5 biliwn ddiwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn hwb aruthrol i Gymru, gan greu 5,000 o swyddi y bydd llawer ohonynt yn galw am lefel uchel o sgiliau.
Bydd rhan gyntaf cyfadeilad ffilmiau Valleywood yn agor ei drysau yn ystod y flwyddyn, gan gynnig cyfleoedd newydd a denu sgiliau newydd i gymoedd y De.
Rwy’n gobeithio hefyd y bydd Airbus yn cymryd y camau nesaf i ddod â’r A350XWB i’w ganolfan ym Mrychdyn, Sir y Fflint. Mae adain gyfansawdd i’r awyren hon, sy’n wahanol iawn i’r aloi alwminiwm.
Mae gan y ffatri yng Ngogledd Cymru enw gwych eisoes am gynhyrchu adenydd o safon fyd-eang ar gyfer holl awyrennau Airbus, gan gynnwys y cawr A380. Bydd yr A350XWB yn ysgafnach, yn fwy effeithlon o ran tanwydd ac yn wyrddach.
Mae Glofa’r Tŵr, y lofa ddwfn olaf yng Nghymru, yn debygol o redeg allan o lo i’w gloddio yn ystod y 12 mis nesaf a gallai safle arwynebedd y lofa fod yn lleoliad i brosiect adfywio trefol mawr.
Yng Ngogledd Cymru, caiff y contractau eu hailhysbysebu a’u harwyddo ac efallai caiff y gwaith adeiladu ei ddechrau ar swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno. Bydd y swyddfa hon yn dal hyd at 650 o staff, yn lleoliad i Weinidogion y Llywodraeth yn y Gogledd, a dylid ei gwblhau erbyn 2010. Mae’r gwaith adeiladu newydd ddechrau ar swyddfa’r Canolbarth yn Aberystwyth.
Bydd y caffi a’r ganolfan ymwelwyr newydd ar ben yr Wyddfa hefyd yn cael eu hagor yn ystod y flwyddyn i ddod. Disgrifiwyd yr hen adeilad, sydd wedi’i ddymchwel ers amser, gan Dywysog Cymru fel ‘y slym uchaf ym Mhrydain’! Ond bydd yr adeilad newydd rydyn ni’n ei gyllido yn welliant amgylcheddol pwysig ac yn symbol o bopeth gorau yng Nghymru wyllt.
Rwyf innau’n sicr yn edrych ymlaen at ddringo’r Wyddfa i gael ymweld â’r ganolfan!
Yn wleidyddol, mae gyda ni lawer o waith i’w wneud yn ystod y flwyddyn i ddod. Bydd ein rhaglen ar gyfer mwy o bwerau i greu deddfau neu fesurau unigryw i Gymru yn parhau, gyda’r Cynulliad a’r Senedd yn San Steffan yn craffu’n briodol ar bob un.
Bydd y confensiwn, dan arweiniad y cyn-ddiplomat o fri, Syr Emyr Jones Parry, hefyd yn dechrau ar ei waith yn 2008 i baratoi ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.
Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous iawn yng Nghymru. Ac mae un peth yn sicr – bydd fy Llywodraeth yn parhau i hyrwyddo ein rhaglen uchelgeisiol i wella ansawdd bywyd i bawb yng Nghymru.
Rhodri Morgan











