Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Adeiladu economi gref a chreu swyddi newydd heb gyfaddawdu ar agenda werdd Cymru yw man cychwyn ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Dydd Iau 06 Rhagfyr 2007

Mae Cymru’n arwain y ffordd drwy wahodd pob sector o’r gymdeithas i gyfrannu drwy Gomisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru a thrwy annog busnesau i ddatblygu a defnyddio technolegau newydd i gyrraedd eu nodau, meddai Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan.

Roedd yn traddodi Darlith Arwain Datblygu Cynaliadwyedd i Senedd yr Alban yn Holyrood.

“Mae’n hawdd i ni siarad am y peth, ond y gwir brawf yw p’un a fyddwn yn gallu gwneud yr hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud,” meddai Prif Weinidog Cymru.

“Rydym wedi ymroi i ddatblygu cynaliadwy – y Cynulliad Cenedlaethol yw un o’r ychydig weinyddiaethau ledled y byd lle mae dyletswydd statudol ar y Gweinidogion i’w hyrwyddo.

“Ar yr un pryd, mae gennym ni lawer mwy o ddiwydiannau simneiau mwg na’r Alban a Lloegr. Sut mae mynd ati i ollwng llai o nwyon tŷ gwydr a glanhau gollyngiadau’r simneiau mwg ar yr un pryd? Yn bendant nid drwy gau’r simneiau mwg, rhag iddynt symud i wledydd lle mae llai o reoleiddio ac sydd heb lofnodi Cytuniad Kyoto.

“Mae Cymru’n mynd i ddatblygu tair ffordd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy - sef gwynt, dŵr a phren.

“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu rhyddhau tir y Comisiwn Coedwigaeth a gwahodd cynigwyr i ddatblygu ffermydd gwynt yn rhannau addas y coedwigoedd hyn sy’n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad. Gall olygu y gall cyfanswm o 1,000MW o bwer ddod o wahanol rannau o goedwigoedd Cymru.

“Eisoes rydym yn cynhyrchu tua 150MW o ynni dŵr yng Nghymru, ac yn ddiweddar cefais fynychu’r cyfarfod Gweinidogol ad-hoc cyntaf am gynllun arfaethedig Morglawdd Hafren – sydd â photensial cynhyrchu anferthol – er mwyn cytuno ar y ffordd orau o gydweithio i fynd â’r gwaith yn ei flaen.

Bydd Morglawdd Hafren yn costio tua £15 biliwn ac ni fydd yr ynni a gaiff ei gynhyrchu ganddo yn rhad. Ond efallai mai’r Morglawdd fydd cyfraniad Cymru a’r DU at gynhyrchu ynni di-garbon a rhoi stop ar gynhesu byd-eang, cyn belled ag y bydd gwledydd eraill hefyd yn cyfrannu.

“Hefyd mae safle bio-mas sylweddol fydd yn llosgi sglodion pren o goedwigoedd cynaliadwy wedi cael ei gymeradwyo ym Mhort Talbot. Bydd yn cynhyrchu 350MW sef digon i gynnal hanner cartrefi Cymru.

“Rydym yn gweithio ar gynllun ynni adnewyddadwy newydd, ac yn ôl y rhagolygon, mae gan Gymru’r cyfle i fod yn hunangynhaliol o fewn yr 20 mlynedd nesaf os nad cyn hynny.”

Ond fe bwysleisiodd na fyddai cynlluniau o’r fath yn cael eu datblygu heb ystyried y gost.

“Mae yna gynigion da a drwg ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr, ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio synnwyr cyffredin democrataidd wrth fynd trwy’r broses gynllunio i sicrhau mai dim ond y cynigion gorau fydd yn cael eu cymeradwyo.

“Yn ogystal â Morglawdd Hafren, mae yna gyfleoedd eraill i gynhyrchu llawer o ynni adnewyddadwy drwy ddefnyddio’r llanw yng Nghymru, gan gynnwys drwy ddefnyddio morgloddiau, morlynnoedd neu ddyfeisiau ffrydio’r llanw. Mae rhai eisoes yn derbyn arian Amcan 1.”

Mae Cymru hefyd yn prysur ddatblygu’n ganolfan ragoriaeth o ran gweithgynhyrchu dyfeisiau ynni’r haul, ac mae nifer o brosiectau blaengar yn cael eu datblygu gan brifysgolion a chwmnïau gyda chymorth cronfeydd strwythurol.

Dywedodd y Prif Weinidog fod gan fusnesau rôl allweddol i’w chwarae, beth bynnag fo’u maint.

“Ein bwriad cyffredinol yw sicrhau y gall ein heconomi barhau i dyfu heb ychwanegu mwy at y newid yn yr hinsawdd a heb ychwanegu at y gwastraff sy’n cael ei dirlenwi.”

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod Cymru yn chwarae rôl ryngwladol drwy ei phrosiect Cymru o Blaid Affrica a thrwy gynnal cynllun peilot ar ran y Cenhedloedd Unedig, Gold Star Communities, sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru â chymunedau yn Affrica Is-Sahara.

“Mae’n rhan o’n rhaglen o ymgysylltu â’r gymdeithas ddinesig er mwyn helpu Cymru i fod yn wlad Masnach Deg,” meddai.

“Er mai Cymru sydd â’r ôl-troed carbon lleiaf o blith gwledydd Prydain, mae’n dal i fod yn anghynaliadwy ac rydym yn ymroi i’w leihau. Rwyf wedi cadarnhau mai cynaliadwyedd yw prif neges fy ngweinyddiaeth.

“Bydd Comisiwn y Newid yn yr Hinsawdd Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos nesaf. Bydd yn gwahodd y sector cyhoeddus, busnesau, y sector gwirfoddol a chyrff anllywodraethol i gymryd rhan a bydd yn gofyn am gyngor arbenigol gan sefydliadau a mudiadau amgylcheddol allweddol.”

Rhagfyr 6, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Newid hinsawdd Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 06 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i