Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Croeso nÔl i filwyr Cymru

Heddiw [ddydd Mawrth, 11 Rhagfyr], roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal digwyddiad yn Stadiwm y Mileniwm i groesawu milwyr y Cymry Brenhinol yn ôl i’r wlad ar ôl bod yn Irac.
Dydd Mawrth 11 Rhagfyr 2007

Roedd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, y Dirprwy Gadfridog, yr Is-gadfridog Syr Freddie Viggers a’r Gweinidog dros y Lluoedd Arfog Bob Ainsworth yno i groesawu’r milwyr.

Roedd y Gweinidog dros Iechyd Edwina Hart hefyd yno gan mai hi sy’n gyfrifol am y berthynas rhwng Llywodraeth y Cynulliad â’r lluoedd arfog a chyn-filwyr.

Gorymdeithiodd yr Ail Fataliwn o Gastell Caerdydd i Stadiwm y Mileniwm. Yno, roedd Syr Freddie yn annerch y staff ac yn cyflwyno medalau.

Mae’r Bataliwn newydd ddychwelyd adref ar ôl chwe mis yn Irac - y trydydd cyfnod o chwe mis mewn pedair blynedd.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan:

Mae’r Cymry Brenhinol a’r holl filwyr Prydeinig sydd allan yn Irac, a ledled y byd, yn gwneud gwaith aruthrol dan amgylchiadau peryglus ac anodd iawn.

Yn fy nghyfarfod â Syr Richard Dannatt y mis diwethaf, cawsom gyfle i drafod sut y mae dynion a menywod Cymru a’u catrodau wedi bod yn rhan allweddol ac effeithiol o luoedd arfog Prydain ers blynyddoedd bellach. Dyna pam yr hoffwn i weld cymaint o bobl â phosibl yn yr orymdaith fory er mwyn i ni gael dangos ein gwerthfawrogiad o waith caled ein milwyr.

Yn ogystal â dathlu’r ffaith bod y Bataliwn wedi dychwelyd yn ddiogel, roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gofio’r milwyr hynny fu farw yn Irac.  

Cafodd y cyhoedd eu hannog i ymuno â theulu a ffrindiau’r milwyr yn y Gwasanaeth Coffa a’r seremoni cyflwyno medalau.

Meddai Mrs Hart:

Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gallu cynnal y digwyddiad hwn er mwyn i ni gael dangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod gwasanaeth ein lluoedd arfog.

Mae ein milwyr, yn ddynion ac yn fenywod, yn gwneud gwaith aruthrol. Mae arnom ni oll ddiolch iddynt, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ofalu amdanynt. Rwy’n benderfynol o helpu cyn-filwyr a gweithwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau gyda’u hiechyd oherwydd eu gwasanaeth milwrol.

Y mis diwethaf, cyhoeddais y bydd pob cyn-filwr y credir ei fod yn dioddef o broblemau iechyd oherwydd ei wasanaeth milwrol yn cael blaenoriaeth o ran gofal a thriniaeth yn y GIG. Bydd help ychwanegol ar gael i’r rheini sy’n dioddef problemau iechyd meddwl hefyd.


Rwy’n teimlo’n gryf iawn dros y lluoedd arfog a’u gwaith, ac mae’n fraint i mi gael bod yn gyfrifol am weithio gyda Llywodraeth Prydain i wella’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i filwyr a’u teuluoedd wedi iddynt ddychwelyd.

Yn anffodus, ni fydd rhai ohonynt yn dychwelyd atom, a rhan o bwrpas y digwyddiad hwn yw talu teyrnged i’r holl bobl hynny a gafodd eu lladd ar faes y gâd. Ni chant fod yn angof.

Meddai Prif Swyddog Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol, Lefftenant-cyrnol James Swift:

Y daith ddiwethaf hon i Irac oedd yr anoddaf a’r fwyaf peryglus, ac mae dewrder a phroffesiynoldeb y gwrol ryfelwyr hyn wedi bod yn aruthrol.

Maent hefyd wedi bod yn rhan o’r datblygiad hollbwysig lle mae lefel trais wedi gostwng yn sylweddol ac mae pobl Irac yn cymryd mwy a mwy o reolaeth dros eu sefyllfa. Mae cefnogaeth yr holl bobl hynny adref wedi bod yn arbennig, ac mae wedi golygu cymaint i’r milwyr. Rydym yn lwcus iawn o gael dathlu’r ffaith ein bod wedi cael dod adref i Gymru yn y fath ffordd a thalu teyrnged i’n cyfeillion a gollodd eu bywydau.

Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 11 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i