Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn talu teyrnged i gamp Admiral yn cyrraedd mynegai 100 cwmni’r FTSE

Mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi llongyfarch cwmni yswiriant Admiral, sydd wedi’i leoli yng Nghymru, am dorri i mewn i fynegai 100 cwmni’r FTSE o brif gwmnïau Prydain am y tro cyntaf.
Dydd Mercher 12 Rhagfyr 2007

Meddai:

Credir mai Grŵp Admiral yw’r ail gwmni yn unig â’i bencadlys yng Nghymru i fod yn y mynegai ers iddo ddechrau ym 1984, a’r cyntaf sy’n gweithredu yng Nghymru’n bennaf. Mae hyn yn gamp aruthrol i gwmni a sefydlwyd yng Nghaerdydd ddim mwy na 14 mlynedd yn ôl.

Dyma lwyddiant Cymreig gwirioneddol ac mae’n profi bod gan fusnesau yng Nghymru yr agwedd bositif sydd ei hangen er mwyn llwyddo a bod yn uchelgeisiol.

Mae Admiral wedi tyfu nid drwy brynu cwmnïau eraill ond drwy dwf organig pur. Mae wedi llwyddo, diolch i reoli deheuig, gweithlu ymroddedig a thrwy ddarparu’r gwasanaeth y mae cwsmeriaid ei eisiau.

Mae eu camp yn profi bod cwmnïau sy’n dechrau yng Nghymru yn gallu cyrraedd lefelau uchaf cymuned fusnes y DU. Grŵp Admiral yw un o lwyddiannau mawr Cymru yn ystod y degawd diwethaf, ac mae newyddion heddiw yn brawf pellach o strategaeth ddeinamig ac arloesol y cwmni hwn.

Nawr bod Admiral wedi dangos y ffordd, mae’n gosod targed ar gyfer cwmnïau eraill yng Nghymru, er enghraifft moneysupermarket.com yn y Gogledd ac eraill y tu allan i faes gwasanaethau ariannol, i geisio efelychu llwyddiant Admiral dros y pum neu’r deg mlynedd nesaf.

Mae datblygiad heddiw yn golygu y bydd Admiral, fel un o’r 100 prif gwmni ar Farchnad Stoc Llundain, nawr yn denu llawer mwy o sylw a daliadau buddsoddi gan gronfeydd pensiwn mawr yma a thramor, a thrwy hynny yn hyrwyddo ei statws ariannol ymhellach byth.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wrth ei fodd hefyd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gallu helpu i ddatblygu’r busnes.

Meddai:

Fe roddon ni gymorth ariannol i helpu Grŵp Admiral i ehangu yn natblygiad SA1 Abertawe ddwy flynedd yn ôl, a thrwy hynny greu 250 o swyddi ychwanegol ar y pryd.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn cyflogi mwy na 500 yn SA1. Wedi’i lansio yng Nghaerdydd ym 1993, mae Grŵp Admiral hefyd yn cynnwys Diamond, sy’n arbenigo mewn yswiriant i fenywod, elephant.co.uk a confused.com, gwefan sy’n cymharu yswiriant.

Rhagfyr 12, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 12 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i