Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer entrepreneuriaid ifanc

Mae’r byd angen entrepreneuriaid ifanc, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i greu’r amgylchedd delfrydol iddynt lwyddo yng Nghymru.
Dydd Iau 15 Tachwedd 2007

Dyna oedd neges Carwyn Jones, y Cwnsler Cyffredinol i fyfyrwyr Coleg Penybont-ar-Ogwr i ddathlu Wythnos Entrepreneuriaid.  

Meddai heddiw:

Mae hwn yn amser cyffrous i Gymru, ac yn amser cyffrous i’n pobl ifanc.  

Mae’r byd angen pobl ifanc sydd â’r ysbryd entrepreneuraidd i’w wneud yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn hapus iawn â’r ffigurau a oedd yn profi bod Cymru yn derbyn yr her.

Mae Banc Barclays wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sy’n dangos fod 900 o fusnesau wedi eu lansio yng Nghymru yn hanner cyntaf y flwyddyn hon gan bobl o dan 25 oed.  Bu Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal arolwg o agweddau tuag at entrepreneuriaeth pob chwe mis, ac rydym wedi gweld newidiadau sylweddol a phositif.  

Mae pobl yn gweld mwy o gyfleoedd i ddechrau busnes nawr nag ar unrhyw amser ers 2003.  Mae pobl yn pryderu llai ynghylch y risg, ac mae’r awydd i fod yn bennaeth arnoch eich hunan wedi mwy na dyblu yn y 18 mis diwethaf. 

Meddai:

Mae nifer o’r busnesau newydd wedi deillio o’n prifysgolion a’n colegau – busnesau newydd sbon sy’n flaenllaw yn yr economi wybodaeth.

Rydym yn benderfynol i wneud popeth o fewn ein gallu i ysbrydoli a chefnogi twf y busnesau hyn.

Roedd Mr Jones yn ymweld â Chanolfan Mentergarwch Cyfryngau Newydd Coleg Pen-y-bont, a agorodd fis Medi y llynedd.  Mae’n ganolfan arbenigol sy’n canolbwyntio ar raglenni mentergarwch, arloesedd ac addysg uwch ym maes y celfyddydau a dylunio.

Dangoswyd gwaith iddo gan fyfyrwyr ffotograffiaeth, cynhyrchu aml-gyfryngol a chyfryngol, ac aeth o amgylch y cyfleusterau newydd.

Roedd hwn yn un o bron i 300 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru i nodi’r bedwaredd Wythnos Entrepreneuriaeth flynyddol, sydd wedi eu cynllunio i dynnu sylw at y llwyddiannau, ac i annog mwy o bobl i ddatblygu busnesau newydd.  

15 Tachwedd 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Help i fusnesau

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 15 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i