Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cynulliad Cymru'n dathlu gwobr hyfforddiant Genedlaethol

Roedd staff Llywodraeth Cynulliad Cymru'n dathlu yr wythnos ddiwethaf ar ôl derbyn gwobr genedlaethol i gydnabod rhaglen hyfforddiant arloesol.
Dydd Llun 17 Rhagfyr 2007

Mae rhaglen Cenhadon Newid Llywodraeth Cynulliad Cymru, a luniwyd ac a ddatblygwyd gan staff yn 2002, wedi ennill Gwobr Hyfforddiant Genedlaethol y DU am "ymrwymiad eithriadol i ragoriaeth" a chafodd gydnabyddiaeth fel rhaglen y dylid ei rhannu a'i hefelychu ar draws y DU.

Meddai Syr Jon Shortridge, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru:

Rwy’n hynod falch fod ein rhaglen Cenhadon Newid wedi ennill y Wobr Genedlaethol glodfawr hon.  Rwyf wrth fy modd i weld bod gwaith caled staff Llywodraeth y Cynulliad a ddatblygodd y rhaglen, a'r nifer helaeth o bobl a gyfrannodd at ei llwyddiant, yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol.

Mae'r rheini ohonom sy'n gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella'n barhaus y gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y cyhoedd, ac mae'r rhaglen Cenhadon Newid yn ganolog i'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n caniatáu i aelodau unigol o staff ddefnyddio sefyllfaoedd go iawn i wneud gwelliannau gwirioneddol i'r ffordd rydym yn gweithio.

Mae'r rhaglen, sydd â’r nod o newid diwylliant mewn sefydliad, yn addysgu pobl sut i ddatblygu ymhellach eu syniadau newydd arloesol ac i chwyldroi y ffordd y mae sefydliad yn cynnal ei fusnes.

Wrth ganmol y rhaglen, dywedodd un o'r "Cenhadon":

O'r cychwyn cyntaf, fe wnaeth y cwrs inni feddwl yn glir ar sawl lefel - gan nodi beth fyddai'n 'llwyddiant'; diffinio'r hyn yr hoffem ei gyflawni; a sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol.

Canmolwyd y rhaglen gan y corff a ddyfarnodd y wobr am iddi sicrhau gwelliannau sylweddol i bobl Cymru.  

Roedd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, hefyd yn bresennol yn y seremoni i gyflwyno'r gwobrau yn y categori unigol.

17 Rhagfyr 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 17 Rhagfyr 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i