Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Swyddfa Merthyr yn rhoi hwb i’r economi

Mae cynllun Llywodraeth y Cynulliad i wasgaru swyddi’r gwasanaeth sifil ledled Cymru yn cael ei ystyried yn llwyddiant, wrth ddathlu blwyddyn ers agor swyddfa Merthyr.
Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2007

Swyddfa Merthyr

Dywedodd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, ei fod wedi ei blesio’n arw â llwyddiant y symud.

Meddai:  

Mae gan y swyddfa amgylchedd weithio ragorol, ac mae’r staff yn defnyddio cyfleusterau dinesig Merthyr, a thrwy hynny’n helpu i gyfrannu tuag at yr economi leol.

Mae nifer o weithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn gwirfoddoli ar amrywiol brosiectau yn y gymuned leol, ac rwy’n hyderus y bydd y cysylltiadau hyn yn datblygu ymhellach yn y dyfodol.  

Merthyr oedd y cam cyntaf yn ein cynllun i wasgaru swyddi y gwasanaeth sifil i bob cwr o’r wlad.  Mae’r gwaith adeiladu newydd ddechrau ar y swyddfa nesaf yn Aberystwyth, sydd i agor yn 2009, a swyddfa Cyffordd Llandudno i fod yn barod erbyn 2010. 

Mae gan swyddfa Merthyr yn Rhydycar 450 aelod staff. Cafodd dros 390 o swyddi eu symud o Gaerdydd a swyddfeydd eraill y llynedd, a chrëwyd 60 o swyddi eraill i gynorthwyo yn y swyddfa, nifer o’r swyddi hynny’n cael eu llenwi gan bobl o’r gymuned gyfagos.  

Mae’r swyddfa newydd wedi rhoi cyfle hefyd i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, sydd wedi ymuno â’r Cynllun Prentisiaeth Fodern Sylfaenol.  

Ar wahân i’r manteision economaidd i’r dref, mae nifer o’r staff wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol ym Merthyr a’r ardal gyfagos.  Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • Cynorthwyo Clwb Bechgyn a Merched Pant a Dowlais a’r Engine House, Dowlais trwy blannu 17,000 o fwlbiau cennin pedr i helpu i brydferthu’r ardal leol;
  • Helpu i adnewyddu derbynfa canolfan gymuned leol;
  • Peintio murlun mewn maes parcio canolfan adnoddau iechyd meddwl;
  • Gweithio ar gwrt peli mewn canolfan deuluol a gynhelir gan brosiect Ieuenctid a Chymunedol Aberfan;
  • Cymryd rhan yn rhaglen lanhau Cadw Cymru’n Daclus Blaenau’r Cymoedd;
  • Rhoi cymorth y mae galw mawr amdano mewn canolfannau lloches i fenywod;
  • Cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth y Tywysog;
  • Cymryd rhan mewn gweithgaredd rhannu taflenni ar gyfer tîm Cymunedau’n Gyntaf Merthyr Tudful.

Mae’r swyddfa hefyd wedi ei barnu yn ‘Rhagorol’ um maes datblygu cynaliadwy, gan ddilyn Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladau.

Tachwedd 27, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi Y Trydydd Sector

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 27 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i