Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Trigolion Ynys Môn sy'n fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd

Heddiw [30 Tachwedd] bu Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ymweld ag Ynys Môn i weld dros ei hun sut y mae'r ynys yn helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Dydd Gwener 30 Tachwedd 2007

Richard Gordon Williams & Rhodri Morgan

Dros y mis diwethaf, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn dosbarthu 100,000 o fylbiau rhad-ar-ynni i nifer o drigolion yr ynys, a ddarparwyd gan y darparwr ynni Powergen. Rhoddodd y Prif Weinidog y bylbiau olaf i Gordon ac Anne Williams o Bont Menai.  

Dywedodd Rhodri Morgan:

Dyma fenter dda a fydd yn galluogi trigolion yr ynys i helpu i fynd i'r afael ag un o’r problemau mwyaf sy'n wynebu'r byd ar hyn o bryd. Mae'r arbedion a geir o wneud newid bach fel hwn yn sylweddol, o ran arbed arian ac atal gollyngiadau carbon.

Un o'r deg prif ymrwymiad yn ein dogfen Cymru'n Un yw sicrhau amgylchedd cynaliadwy, ac rydym wedi pennu targed i leihau ein gollyngiadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn erbyn 2011. Fodd bynnag, ni allwn gyflawni ein hamcanion heb gefnogaeth pobl Cymru. Gall unigolion a theuluoedd helpu ein planed i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy wneud newidiadau bach i'w ffordd o fyw, a bydd y newidiadau hawdd hyn yn helpu i leihau gollyngiadau tŷ gwydr yn ogystal â chyfrannu at ffordd o fyw mwy iach ac arbed arian. 

Yn ystod eu hoes, gall y bylbiau hyn arbed £15 miliwn i gymunedau Ynys Môn, sy'n swm aruthrol, a gallai atal hyd at 14,000 tunnell o ollyngiadau carbon a 14 miliwn cilowat yr awr o drydan.  

Canolfan J E O'Toole yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol - canolfan yng Nghaergybi sy’n cynnig gwasanaeth hawliau lles, cyngor ac adnoddau - a lwyddodd i gael gafael arnynt.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, Arweinydd y Cyngor Sir:

Mae hyn yn gamp fawr i'r ynys, ac rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Powergen ar y cynllun unigryw hwn.

Mae'r Cyngor Sir eisoes wedi ymuno â 'Ymrwymiad Newid Hinsawdd Cymru' Llywodraeth y Cynulliad, a daw ei gyflenwad trydan ei hun o ffynonellau 100% adnewyddadwy. Dyma'r tro cyntaf i gartrefi ar yr ynys gael eu targedu yn y fath fodd, ac mae'n dangos ymrwymiad positif y Cyngor Sir i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Tachwedd 30, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Newid hinsawdd Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 30 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i