Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ailddatblygu gwerth £4.8 miliwn yn fodel ar gyfer addysg

Mae gwaith ailddatblygu gwerth £4.8 mewn coleg allweddol yng ngogledd Cymru yn esiampl wych o sut y mae cyrsiau academaidd a galwedigaethol integredig yn gwella addysg pobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru.
Dydd Gwener 30 Tachwedd 2007

"Mae Coleg Llandrillo yn cyfuno cyrsiau'n llwyddiannus ac yn cynnig dewis ehangach i fyfyrwyr mewn ffordd sy'n esiampl i weddill Cymru ac i'r Deyrnas Unedig (DU) gyfan," meddai Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, wrth agor campws newydd y Rhyl heddiw.

"Rwy'n arbennig o falch â'r partneriaethau y mae'r coleg wedi'u datblygu â sefydliadau addysg uwch eraill er mwyn sicrhau parch cydradd ar gyfer cyrsiau academaidd a galwedigaethol. Mae hyn yn rhan bwysig o amcanion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg pobl ifanc rhwng 16-19 oed,” dywedodd. “Mae Llandrillo'n dangos y ffordd ymlaen ar gyfer addysg ôl-16 yn yr ardal."

Rhodri Morgan.

Mae Coleg Llandrillo, a sefydlwyd ym 1965, yn cael ei gydnabod fel un o'r colegau addysg bellach mwyaf a mwyaf llwyddiannus yn y DU, sy'n cynnig ystod eang o gyrsiau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth a ariennir gan arian Ewropeaidd.

Mae wedi mynd ati'n weithgar i ddatblygu'r cwricwlwm, cydweithio a meithrin cysylltiadau â diwydiannau lleol, sydd wedi ei alluogi i ymateb yn llwyddiannus i anghenion economaidd-gymdeithasol myfyrwyr, busnesau a chymunedau yn y rhanbarth.

Mae'r gwaith ailddatblygu gwerth £4.8 miliwn ar gampws y Rhyl, gan gynnwys cyfraniad o £2.6 miliwn o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth y Cynulliad, wedi gweddnewid yr adeilad er mwyn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf.

"Mae datblygiad o'r fath yn dangos ymrwymiad y coleg i sicrhau bod myfyrwyr lleol yn gallu manteisio ar yr adnoddau dysgu y maent yn eu haeddu i'r safon orau bosibl. Mae hefyd yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg, fel y'i disgrifiwyd yn y ddogfen Y Wlad Sy'n Dysgu: Cyflawni'r Addewid," meddai'r Prif Weinidog.

"Yn ogystal, mae’n darparu addysg a hyfforddiant galwedigaethol ehangach er mwyn cynnig mwy o ddewis o ran cwricwlwm i fyfyrwyr ôl-16, a bydd yn sicrhau bod Coleg Llandrillo yn cadw'i enw da fel sefydliad sy'n darparu addysg o safon uchel i bobl o bob oedran.”

Coleg Llandrillo yw'r unig goleg yng Nghymru sydd wedi cael statws Rhwydwaith Rhagoriaeth ar gyfer Arlwyo a Lletygarwch, ac mae'n un o dri yn y DU sydd wedi cael statws Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Awtotroneg.    

Mae'r coleg yn ddarparwr addysg uwch drwy drefniadau rhyddfraint â Phrifysgol Morgannwg. Mae hefyd wedi sefydlu partneriaethau ag Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam a Phrifysgol Bangor.

Tachwedd 30, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Addysg a sgiliau

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 30 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i