Cafodd Canolfan Gwibgertio Dan Do Redline yng Nghaernarfon £80,000 gan Lywodraeth y Cynulliad a chafodd ei sefydlu gan dri chyn-weithiwr i gwmni Friction Dynamics, sef ffatri yn y dref a oedd yn gwneud cydrannau ar gyfer moduron.
Mae'r ganolfan yn gyfleuster gwibgertio dan do a fydd ar agor drwy'r flwyddyn, a bydd yn cyfrannu at rwydwaith o atyniadau gydol blwyddyn a fydd yn denu ymwelwyr i'r ardal yn y cyfnodau y tu allan i'r tymhorau gwyliau arferol.
Dywedodd Rhodri Morgan:
Canmolaf fentergarwch perchenogion Canolfan Gwibgertio Redline. Ar ôl bod yn rhan o un o anghydfodau diwydiannol hwyaf Prydain, mae'n dda gweld bod John Davis, Jimmy Clarke a Richard Lawson wedi gallu troi sefyllfa anodd yn rhywbeth positif. Rwy'n falch bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gallu helpu'r tîm i sefydlu'r ganolfan, a fydd yn gaffaeliad mawr i ddenu mwy o dwristiaid i'r ardal drwy gydol y flwyddyn. Dymunaf bob llwyddiant i Ganolfan Gwibgertio Redline yn y dyfodol.
Tachwedd 30, 2007











