Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn canmol llwyddiant cwmni biotechnoleg

Heddiw (dydd Mercher, 12 Tachwedd) cafodd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan weld drosto’i hun y dechnoleg o’r radd flaenaf sydd gan y cwmni biotechnoleg o Gaerdydd, Q-chip, pan ymwelodd â’u labordai newydd yn Heol Casnewydd.
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2008

Mae’r cwmni yn un o brif ddatblygwyr cynhyrchion pecynnu manwl sy’n seiliedig ar ficrosfferau ar gyfer y marchnadoedd fferyllol a diagnostig ac mae’n cyflogi 23 o bobl, y mae pob un ohonynt wedi’i addysgu hyd at lefel gradd.

Meddai’r Prif Weinidog:

Yn ystod yr adegau economaidd anodd hyn, mae cwmnïau fel Q-chip sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, ac sy’n darparu cynnyrch arbenigol a swyddi o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn cynnal economi Cymru gan eu bod yn llai tebygol o ddioddef o ddirywiadau yn y farchnad na’r rheini sy’n cynhyrchu nwyddau ar gyfer y farchnad dorfol.

Er gwaetha’r hinsawdd economaidd bresennol mae’r cwmni wedi ehangu ac wedi symud i labordai newydd, ac mae wedi ymrwymo i ymchwilio i gynhyrchion newydd a’u datblygu. Nid yn unig y bydd hyn yn eu galluogi nhw i ddod trwy’r storm yn well nag eraill ond bydd hefyd yn sicrhau eu bod mewn sefyllfa fanteisiol dros ben pan ddaw’r gwelliant economaidd.

Mae Q-chip wedi deillio o ymchwil wyddonol Prifysgol Caerdydd. Mae angen i ni weld llawer rhagor o enghreifftiau o fasancheiddio’r eiddo deallusol sy’n cael ei gynhyrchu gan ein prifysgolion.

12 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 12 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i