Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar yr oriel ac yn ei rheoli, a hynny mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bydd yn gartref i gasgliad o weithiau Graham Sutherland, a fydd yn cael eu harddangos yn barhaus, yn ogystal ag arddangosfeydd teithiol, gan gynnwys darnau gan Picasso, Lowry a Rembrandt. Bydd hefyd yn cynnwys canolfan addysg, un o ganolfannau croeso’r Parc Cenedlaethol, a chaffi sy’n gwerthu cynnyrch lleol yn ogystal â rhoi lle i artistiaid preswyl.
Mae’r oriel wedi elwa ar arian Amcan 1 gwerth £1.6 miliwn trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd hefyd wedi rhoi £1.5 miliwn ei hun o ffynonellau sy’n cynnwys y rhaglen Ffordd i Ffyniant a Chroeso Cymru. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd wedi gwneud cyfraniadau.
Meddai’r Prif Weinidog:
Tyddewi yw’r tlws yng nghoron Sir Benfro sy’n sir gyda’r gorau yng Nghymru a’r DU am ddenu twristiaid. Mae Oriel y Parc yn berl arall a fydd yn denu hyd yn oed fwy o dwristiaid. Bydd yn helpu’r twristiaid hynny i werthfawrogi prydferthwch tirwedd y sir a bydd yn eu hannog, gobeithio, i ddychwelyd dro ar ôl tro er mwyn mynd i chwilio am ragor o drysorau cudd.
Caiff celfyddyd o safon ryngwladol ei harddangos yma, trwy gyfrwng yr arddangosfeydd teithiol ynghyd â’r dehongliad cyffrous o arfordir a thirwedd Sir Benfro a geir ym mhaentiadau Graham Sutherland a fydd yn cael eu harddangos yn barhaus. Mae’r briodas rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol yn un anarferol iawn. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei weld er mwyn ei gredu!
14 Tachwedd 2008











