Mae ymweliad Prif Weinidog Cymru hefyd yn cyd-fynd â chyhoeddi Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc cyntaf Cymru. Bydd y ddogfen hon yn tynnu ynghyd yr holl ymchwil a’r data ystadegol, gan gynnwys bron pob agwedd ar les pobl ifanc rhwng 0 a 18 oed yng Nghymru. Mae’r Monitor yn canolbwyntio ar saith nod craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant, sydd wedi’u seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Yn ystod ei ymweliad â’r ysgol hon, sydd â phedwar cant o ddisgyblion, cafodd Prif Weinidog Cymru gyfle i weld nifer o weithgareddau sydd â’r nod o ddangos i blant na fydd bwlio’n cael ei ganiatáu. Mae’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu yn cynnwys casglu sbwriel yn yr ardal leol er mwyn annog parch tuag at yr amgylchedd, gweithdai gwrth-fwlio, a chynhyrchu fideo gwrth-fwlio.
Meddai Rhodri Morgan:
Mae fy ymweliad i heddiw’n cyd-fynd â chyhoeddi’r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc cyntaf. Un o’r saith nod craidd sy’n cael eu mesur yn y ddogfen hon yw y dylai plant fwynhau’r iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl. Mae hynny’n cynnwys peidio â dioddef mathau gwahanol o erledigaeth, gan gynnwys bwlio.
Gall bwlio effeithio ar unrhyw un yn yr ysgol. Trwy ddelio â’r broblem hon pan fo plant yn ifanc, gallwn ni helpu i frwydro yn ei herbyn a gwneud yn siŵr bod ysgolion Cymru yn lleoedd hapus i ddisgyblion ac athrawon. Mae’r holl weithgareddau gwahanol rydw i wedi’u gweld yma heddiw yn Ysgol Gynradd Pont-y-Clun, yn dangos y gellir mynd ati mewn ffordd ddifyr ac addysgiadol i gyfleu na ddylid goddef bwlio o unrhyw fath.
Bydd y Monitor yn caniatáu i ni fesur ein cynnydd wrth geisio cyrraedd y saith nod craidd. Bydd hyn yn ei dro yn dangos faint o gynnydd rydyn ni’n ei wneud mewn perthynas â lles plant Cymru – wedi’r cyfan, nhw yw’r dyfodol.
20 Tachwedd 2008











