Roedd y Frenhines a Dug Caeredin yn y gwasanaeth a dechreuodd ychydig cyn 11.00am er mwyn i'r gynulleidfa gadw dwy funud o dawelwch sy'n digwydd yn draddodiadol pan fydd Big Ben yn canu am 11 o'r gloch ar Ddiwrnod y Cadoediad. Roedd y gwasanaeth wedi cydnabod cyfraniad milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a chyfraniad dinasyddion hefyd. Eleni bu farw yr unig dri chyn-filwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf oedd yn byw yn y DU – bu farw William Stone ym mis Ionawr, oedd yn 108 oed, a bu farw Henry Allingham (113 oed) a Harry Patch (111 oed) ym mis Gorffennaf.
Meddai'r Prif Weinidog:
"Eleni rydyn ni’n nodi bod 91 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle collodd mwy nag 885,000 o filwyr Prydain eu bywydau ar feysydd y gad yn Ffrainc a Gwlad Belg a mannau pellennig eraill fel Gallipoli a'r Balcanau. Ers i Henry Allingham a Harry Patch farw, nid oes unrhyw gyn-filwyr yn dal yn fyw, er mawr dristwch, i sôn am erchyllderau ffosydd Fflandrys a theatrau eraill y Rhyfel Byd Cyntaf. A chyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, mae llai o gyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd i rannu eu profiadau yn Dunkirk, Gogledd Affrica, Normandi, Burma a mannau eraill lawer yn y byd lle bu milwyr, llongwyr ac awyrenwyr Prydain a’r Gymanwlad yn brwydro ac yn marw dros ein dyfodol ni.
"Ond ni ddylem byth anghofio dewrder ac aberth y rhai a frwydrodd ac a gollodd eu bywydau dros heddwch a democratiaeth."
11 Tachwedd 2009











