Mae’r cerflun 9 troedfedd, un tunnell o Syr Tasker Watkins VC, bellach ar safle amlwg sy’n arwain at brif fynedfa’r stadiwm yn Stryd Westgate, lle y bydd cannoedd o filoedd o ymwelwyr yn pasio trwy gydol y flwyddyn pan gynhelir digwyddiadau a chwaraeon o bwys.
Cafodd y cerflun efydd ei ddadorchuddio ddoe gan ei ferch, Y Fonesig Mair Griffith-Williams mewn seremon, wedi gorymdaith gan y fyddin a’r band o ail fataliwn Catrawd Frenhinol Cymru.
Roedd dros 150 o bwysigion yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Judge, y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Archesgob Cymru, a’r Uwchfrigadydd RJM Porter.
Dechreuodd y cysyniad o’r cerflun ger Stadiwm y Mileniwm pan gafodd y syniad ei hyrwyddo gan wyr busnes o Gaerdydd, Mr Stanley Thomas Senior a Syr Stanley Thomas, a chafodd ei gomisiynu gan Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerdydd.
Meddai’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan:
“Roedd Syr Tasker yn unigolyn unigryw, ac rwy’n dal i gredu ei fod yn un o Gymry amlycaf yr ugeinfed ganrif.
“Bydd y cyllid o £25,000 gan Lywodraeth y Cynulliad tuag at ei gerflun yn sicrhau na fydd cyfraniad hynod Syr Tasker i rygbi yng Nghymru, a’i wasanaeth fel milwr a barnwr, fyth yn cael ei anghofio, yn union fel nad anghofiodd yntau ei wreiddiau o ganol Cymoedd Cymru.
“Pan fydd pobl yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm, byddant yn ei ystyried yn enghraifft eiconig o ddyn dawnus a phenderfynol, ond ar yr un pryd dewr a gostyngedig.
“Bellach, gall Gymru barhau i gael ei hysbrydoli gan ei etifeddiaeth am flynyddoedd maith.”
Roedd Syr Tasker Watkins, a fu farw ym mis Medi 2007 yn 88 oed, yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel un o’r Cymry mwyaf dylanwadol ddiwedd yr ugeinfed ganrif, a chafodd gydnabyddiaeth byd-eang am ei lwyddiannau mewn sawl maes o ymdrech bersonol.
Daeth ei amlygrwydd ym maes gweinyddu rygbi a’r gyfraith wedi iddo sicrhau ei enw da trwy weithred ddewr yn ystod y rhyfel a arweiniodd at gyflwyno Croes Victoria iddo am ddewrder neilltuol.
Roedd yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru o 1993 hyd at 2004, ac yn ystod y blynyddoedd hynny gwelodd y gêm yn troi’n broffesiynol, llunio pedair Rhanbarth Cymru ac adeiladu Stadiwm y Mileniwm.
Fel bargyfreithiwr medrus, cododd drwy’r farnwriaeth i gyrraedd un o’r safleoedd cyfreithiol uchaf yn y DU, pan ddaeth yn Ddirprwy Brif Ustus Cymru a Lloegr.
Trwy gydol ei oes, roedd ganddo gysylltiad agos a balch a pherthynas arbennig â Glamorgan Wanderers RFC ar gyrion Caerdydd.
Dechreuodd gorymdaith filwrol yng Nghastell Caerdydd heddiw, trwy Stryd Westgate ac i Stadiwm y Mileniwm lle y ffurfiodd y milwyr warchodlu anrhydeddus yn y seremoni dadorchuddio.
Meddai Alun Ffred Jones y Gweinidog dros Dreftadaeth:
“Nid oes unrhyw un i gymharu â’r oes o wasanaeth a roddodd Syr Tasker i’w wlad mewn nifer o wahanol swyddogaethau; arwr rhyfel, cyfreithiwr, barnwr a gweinyddwr chwaraeon.
“Mae’r cerflun hwn, mor agos at gartref cenedlaethol y gêm yr oedd yn ei garu, yn deyrnged addas i ddyn hynod.”
Meddai’r Fonesig Mair Griffith-Williams:
“Rwy’n falch iawn fod fy nhad wedi ei gofio yn y cerflun gwych hwn ac yn arbennig o falch ei fod yma yn Stadiwm y Mileniwm. Mae’r teulu yn hynod falch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.”
Cafodd y cerflun ei lunio gan yr arlunydd o Llanilltud Fawr, Roger Andrews, sydd ag enw da yn rhyngwladol fel cerflunydd ffigurau dynol ac adeiladau cofiadwy.
16 Tachwedd 2009











