Wrth annerch 11eg Dydd Astudiaeth Cardioleg ym Mhrifysgol Morgannwg, disgrifiodd Mr Morgan fesurau i wella ffordd o fyw a deiet pobl er mwyn ostwng lefel afiechyd y galon, a darparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n datblygu’r cyflwr allai fygwth eu bywyd.
Trefnwyd y digwyddiad gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf i rannu safbwyntiau ar gyflawniadau a datblygiad gwasanaethau cardioleg drwy Gymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
“Rwyf am ddiolch i chi i gyd am eich holl ymdrechion a’ch gwaith caled, a gofyn i hynny barhau, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posibl o’r galon.
“Rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau. Gyda’n gilydd, gyda pharhad eich gwaith caled a’ch ymroddiad mae angen adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn barod. Bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion drwy leihau clefyd y galon. Pan a ble bynnag mae clefyd y galon yn taro, rydyn ni am gyflwyno i bawb fynediad at wasanaethau’r galon o’r radd flaenaf.”
Erys clefyd y galon yn un o brif achosion marw cyn pryd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi arweiniad clir i gryfhau gofal y galon o hyn tan 2015, wedi ei ddiweddaru yn gynt eleni gan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Clefyd y Galon
Bwriad hwn yw:
- Hyrwyddo calonnau iach;
- Rhwystro clefydau cardiofasgwlaidd a chynyddu cyfartaleddau goroesi:
- Gwella ansawdd bywyd cleifion a theuluoedd y rhai sy’n dioddef ar hyn o bryd o glefyd y galon;
- Cryfhau gwella’r galon.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
“Wedi profi braw am y galon fy hun, rwy’n gryf o’r farn ei bod yn bryd i ni i gyd dderbyn y cyfrifoldeb am ein hiechyd ein hunain.
“Rhaid i’n hymdrechion ganolbwyntio ar gynyddu’r ymwybyddiaeth o ffordd o fywyd a deiet iach er mwyn gostwng y perygl o nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys clefyd y galon.
“Fel rhan o’n hymrwymiad, rhaid parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i bobl sydd eu hangen, ynghyd â chefnogaeth barhaol arall i’w dychwelyd i iechyd gwell a gostwng y perygl o ymosodiad arall.
“Mae’r Strategaeth yn hanfodol i gyfarwyddo ac arwain gweithgarwch pawb sydd â chyfrifoldeb dros ofal y galon, er mwyn gwneud cynnydd sylweddol tuag at yr amcanion polisi a osodir ar gyfer 2015.
“Mae’n berthnasol ar gyfer holl lwybr gofal i gleifion o atal a chanfod buan i asesiad a diagnosis. Am y tro cyntaf, mae yna hefyd safon benodol ar gyfer adsefydlu cardiaidd i adlewyrch pwysigrwydd y gwasanaeth hwn a’r angen iddo fod yn rhan annatod o ofal y galon.”
27 Tachwedd 2009











