Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru’n ail-ddatgan ymrwymiad i ofal y galon

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ostwng lefel clefyd y galon yng Nghymru.
Dydd Gwener 27 Tachwedd 2009

Wrth annerch 11eg Dydd Astudiaeth Cardioleg ym Mhrifysgol Morgannwg, disgrifiodd Mr Morgan fesurau i wella ffordd o fyw a deiet pobl er mwyn ostwng lefel afiechyd y galon, a darparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n datblygu’r cyflwr allai fygwth eu bywyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf i rannu safbwyntiau ar gyflawniadau a datblygiad gwasanaethau cardioleg drwy Gymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

“Rwyf am ddiolch i chi i gyd am eich holl ymdrechion a’ch gwaith caled, a gofyn i hynny barhau, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posibl o’r galon.

“Rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau.  Gyda’n gilydd, gyda pharhad eich gwaith caled a’ch ymroddiad mae angen adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn barod.  Bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion drwy leihau clefyd y galon.  Pan a ble bynnag mae clefyd y galon yn taro, rydyn ni am gyflwyno i bawb fynediad at wasanaethau’r galon o’r radd flaenaf.”

Erys clefyd y galon yn un o brif achosion marw cyn pryd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi arweiniad clir i gryfhau gofal y galon o hyn tan 2015, wedi ei ddiweddaru yn gynt eleni gan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Clefyd y Galon

Bwriad hwn yw:

  • Hyrwyddo calonnau iach;
  • Rhwystro clefydau cardiofasgwlaidd a chynyddu cyfartaleddau goroesi:
  • Gwella ansawdd bywyd cleifion a theuluoedd y rhai sy’n dioddef ar hyn o bryd o glefyd y galon;
  • Cryfhau gwella’r galon.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

“Wedi profi braw am y galon fy hun, rwy’n gryf o’r farn ei bod yn bryd i ni i gyd dderbyn y cyfrifoldeb am ein hiechyd ein hunain.

“Rhaid i’n hymdrechion ganolbwyntio ar gynyddu’r ymwybyddiaeth o ffordd o fywyd a deiet iach er mwyn gostwng y perygl o nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys clefyd y galon.

“Fel rhan o’n hymrwymiad, rhaid parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i bobl sydd eu hangen, ynghyd â chefnogaeth barhaol arall i’w dychwelyd i iechyd gwell a gostwng y perygl o ymosodiad arall.

“Mae’r Strategaeth yn hanfodol i gyfarwyddo ac arwain gweithgarwch pawb sydd â chyfrifoldeb dros ofal y galon, er mwyn gwneud cynnydd sylweddol tuag at yr amcanion polisi a osodir ar gyfer 2015.

“Mae’n berthnasol ar gyfer holl lwybr gofal i gleifion o atal a chanfod buan i asesiad a diagnosis.  Am y tro cyntaf, mae yna hefyd safon benodol ar gyfer adsefydlu cardiaidd  i adlewyrch pwysigrwydd y gwasanaeth hwn a’r angen iddo fod yn rhan annatod o ofal y galon.”

27 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 27 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i