Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
Ar ran pobl Cymru, rwy’n anfon ein dymuniadau gorau atoch ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.
Rwy’n gwybod fod yr hyn y gofynnir i chi ei wneud ymhlith y swyddi mwyaf heriol ac anodd yn y byd, ac rwyf am i chi wybod fod pobl Cymru yn edmygu’ch dewrder a’ch ymroddiad yn fawr iawn.
Rydyn ni’n meddwl amdanoch chi a’ch teuluoedd dros yr ŵyl a thrwy gydol eich cyfnod o wasanaeth.
Nadolig bendithiol a diogel i chi un ac oll.
23 Rhagfyr 2009











