Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyfnod y refferendwm yn dechrau wrth i orchymyn gael ei wneud gan y Frenhines

Caiff y refferendwm ynghylch rhagor o bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynnal ar 3 Mawrth 2011, yn dilyn gorchymyn a wnaeth y Frenhines ddoe.
Dydd Iau 16 Rhagfyr 2010

Cafodd y Gorchymyn ar gyfer y Refferendwm ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, gan nodi'n swyddogol ddechrau cyfnod y refferendwm heddiw (16 Rhagfyr).

Fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd newydd ynglŷn â'r refferendwm ar gyfer cyfnod cyfan y refferendwm.  Bydd hyn yn berthnasol o heddiw tan ddyddiad y bleidlais.

Bydd y pleidiau gwleidyddol a sefydliadau ac unigolion eraill yn gosod y dadleuon o blaid ac yn erbyn yr ymgyrch.  

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

"Mae'r ffaith bod y Frenhines wedi cymeradwyo'r gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn golygu ein bod ni'n gallu mynd ati heb oedi i baratoi ar gyfer y refferendwm."

Meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones:

"Rydw i'n falch bod y rhwystr olaf wedi'i goresgyn ac y bydd y bleidlais bwysig yma i’w chynnal ar 3 Mawrth."

Y cwestiwn fydd:
"Ydych chi am i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar faterion yn yr 20 o feysydd pwnc y mae ganddo bwerau ar eu cyfer?"

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Amdanom ni

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 16 Rhagfyr 2010 Y rhaglen ddeddfwriaethol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i