Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn ein hannog i gynnig darllen fel rhodd y Nadolig hwn

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn annog pobl i gynnig darllen fel rhodd y Nadolig hwn trwy annog rhieni i ddarllen gyda’u plant.
Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2010
Ddoe roedd Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Grangetown yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i gwrdd â disgyblion sy’n rhan o gynllun bydi darllen yr ysgol.
Ddoe roedd Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Grangetown yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i gwrdd â disgyblion sy’n rhan o gynllun bydi darllen yr ysgol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn annog pobl i gynnig darllen fel rhodd y Nadolig hwn trwy annog rhieni i ddarllen gyda’u plant.

Ddoe roedd Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Grangetown yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i gwrdd â disgyblion sy’n rhan o gynllun bydi darllen yr ysgol.  Mae plant blynyddoedd 5 a 6 yn darllen gyda phlant blynyddoedd 1 i 4 er mwyn datblygu sgiliau darllen y plant a chreu brwdfrydedd am ddarllen o oedran ifanc.  Cynhelir y sesiynau cyd-ddarllen trwy’r flwyddyn.  Hefyd, mae’r ysgol yn cynnwys y rhieni a’r gofalwyr yn y broses o godi safonau llythrennedd ymysg disgyblion.

Yn ystod ei ymweliad, fe gyflwynodd Prif Weinidog Cymru ddetholiad o lyfrau a chomics i’r ysgol a dywedodd:  

“Mae’r Nadolig ar y gorwel ac os ydych chi’n meddwl am syniadau am anrhegion Nadolig, mae llyfrau yn syniad gwerth chweil.  Hefyd, mae’n bwysig eich bod yn treulio amser yn darllen gyda’ch plant dros y Nadolig.  Nid yw’n costio dim ond mae treulio amser yn darllen gyda’ch plentyn yn amhrisiadwy.  Mae treulio deng munud yn darllen gyda phlentyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’w sgiliau darllen.  Mae darllen yn hwyl ac nid oes yn rhaid darllen llyfrau yn unig - mae comics, cylchgronau a gwefannau yn wych i ddatblygu sgiliau darllen hefyd.”

Meddai Mandy Paish, Pennaeth Ysgol Gynradd Grangetown:

“Yn Ysgol Gynradd Grangetown,  mae darllen yn flaenoriaeth i’r gymuned ysgol.  Rydym ni’n gwneud yn siwr fod pob plentyn yn darllen bob dydd.  Mae darllen arweiniol grwp gydag athrawon, cynorthwywyr dysgu, gwirfoddolwyr a disgyblion eraill yn digwydd bob bore cyn gynted ag y mae’r plant yn cyrraedd.  Mae hyn wedi cael effaith positif ar fwynhad disgyblion a safonau darllen yn ein hysgol.”

Daw neges Prif Weinidog Cymru wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu ei Chynllun Llythrennedd Cenedlaethol pedair blynedd.  Mae’r strategaeth yn amlinellu sut yr eir ati i godi safonau llythrennedd yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun newydd yn rhoi’r ‘X’ ffactor i lyfrau Cymraeg Dorothy a'i ffrindiau'n annog plant i ddarllen

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 17 Rhagfyr 2010 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i