Meddai ef:
"Gyda disgwyl i’r tymheredd rhewllyd barhau am y diwrnodau nesaf, mae’r cyfnod oer hwn yn enwedig o anodd ar gyfer nifer o bobl, yn enwedig pobl hŷn. Fe garwn i ofyn i bawb i fod yn gymdogol a galw gyda pherthnasau a chymdogion hŷn a bregus i weld sut maen nhw’n ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae mynd allan a gwneud y siopa’n gallu bod yn anodd yn y tywydd rhewllyd felly dwi’n siŵr y byddent yn ddiolchgar am unrhyw gymorth y mae pobl yn gallu gynnig o ran siopa neu rhai tasgau o gwmpas y tŷ.
"Yn nhermau cadw trafnidiaeth yn symud, rydyn ni’n gweithio’n galed ers y flwyddyn ddiwethaf, i baratoi ar gyfer yr amodau tywydd oer rydym ni wedi bod yn eu profi ac sy’n cael eu proffwydo ar gyfer yr wythnos hon. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod digon o halen ar gael er mwyn cadw’r ffyrdd yn glir rhag eira.
"Tra’n bod ni’n profi’r amodau tywydd rhewllyd hyn, rwy’n annog pobl i gymryd gofal arbennig ym mhopeth y maen nhw’n ei wneud."











