Mae'r penderfyniad gan bobl Cymru yn golygu y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio cyfreithiau mewn meysydd datganoledig heb orfod gofyn am gymeradwyaeth Llywodraeth na Senedd y DU.
Bydd y pwerau deddfwriaethol newydd yn cyflymu'r broses ddeddfwriaethol a'i gwneud yn fwy effeithlon. O ganlyniad i hynny, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
"Rydw i'n falch tu hwnt bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid rhoi mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad.
"Ar ôl degawd a rhagor o ddatganoli, byddwn ni bellach yn gallu deddfu'n fwy effeithiol ar ran pobl Cymru, yng Nghymru.
"Mae'r system rydyn i wedi bod yn ei defnyddio hyd yma, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, wedi golygu rhywfaint o ddyblygu gwaith. Mae hi hefyd wedi arwain at ddryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ba feysydd. Bydd cael gwared ar y dyblygu hwnnw yn caniatáu inni ddefnyddio ein gallu i ddeddfu yn fwy effeithiol. Bydd hefyd yn golygu bod gan bobl ddealltwriaeth gliriach o rolau a chyfrifoldebau'r sefydliadau datganoledig yng Nghymru."
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae'r bleidlais hon yn golygu bod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru. Bydd gan bobl Cymru bwerau deddfu llawn am y tro cyntaf.
"Rwy'n falch bod y refferendwm hwn hefyd yn golygu ein bod wedi cyflawni un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth y Cynulliad yn Cymru'n Un. Mae hwn yn gam gwirioneddol arwyddocaol, y byddwn yn falch ohono bob tro y bydd angen deddfwriaeth yn y wlad hon. Mae ein cenedl wedi pleidleisio o blaid deddfwrfa fwy effeithiol ac effeithlon yng Nghymru, a bydd cenedlaethau'r dyfodol ar eu hennill oherwydd hynny."
Nawr, bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn cychwyn ar y dasg o gyflwyno'r ddeddfwriaeth berthnasol fel bod y Cynulliad yn gallu defnyddio ei bwerau deddfu newydd cyn gynted â phosibl. Y disgwyl yw y bydd yn gallu gwneud hyn o ddiwrnod cyntaf y Cynulliad newydd ym mis Mai.











