2 Chwefror 2010
Cyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog eu bod yn bwriadu gofyn am refferendwm ar bwerau newydd i'r Cynulliad. Cafodd hynny ei wneud ar ffurf cynnig ffurfiol, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Roedd cynnal refferendwm yn un o ymrwymiadau allweddol y ddogfen Cymru'n Un.
9 Chwefror 2010
Croesawodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog gefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal refferendwm ar ragor o bwerau deddfu. Wedi hynny, ysgrifennodd y Prif Weinidog yn ffurfiol at yr Ysgrifennydd Gwladol i ofyn am refferendwm.
20 Mai 2010
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau'r Cynulliad ei fod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag awgrym ar gyfer geiriad cwestiwn y refferendwm, yn Gymraeg ac yn Saesneg, iddi ei ystyried.
21 Medi 2010
Rhoddodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog wybod i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ba ddyddiad a fyddai orau, ym marn Llywodraeth y Cynulliad, i gynnal refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
21 Hydref 2010
Cafodd y gorchymyn refferendwm drafft ei osod gerbron y Cynulliad.
9 Tachwedd 2010
Pleidleisiodd ACau yn unfrydol o blaid caniatáu i'r gorchymyn refferendwm drafft fynd yn ei flaen i ddau D?'r Senedd.
25 Tachwedd 2011
Cafodd y gorchymyn refferendwm drafft ei gymeradwyo gan D?'r Cyffredin a Th?'r Arglwyddi.
3 Mawrth 2011
Pleidleisiodd pobl Cymru yn y Refferendwm.
4 Mawrth 2011
Cafodd canlyniad y refferendwm ei gyhoeddi i'r genedl. Y canlyniad oedd "Ie" dros ragor o bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
- Mae angen gwneud amryw o newidiadau a chymryd amryw o gamau ymarferol i ddod â "darpariaethau Deddfau'r Cynulliad" i rym.
- Yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid cael gorchymyn cychwyn i bennu dyddiad ar gyfer dod â'r pwerau newydd i rym.
- Bydd y Prif Weinidog, gyda hyn, yn gosod gorchymyn drafft gerbron y Cynulliad, i'w gymeradwyo. Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y gorchymyn. Bydd y gorchymyn cychwyn drafft yn dynodi bod darpariaethau Deddfau'r Cynulliad yn dod i rym ar Mai 5.
- Dim ond pan fydd Breinlythyrau a'r Sêl Gymreig wedi cael eu paratoi y bydd Deddfau Arfaethedig y Cynulliad yn cael Cydsyniad Brenhinol. Bydd Sêl Gymreig yn cael ei chomisiynu. Y Frenhines fydd yn gwneud y penderfyniad ffurfiol ar gynllun y Sêl Gymreig.
- Bydd Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, yn dynodi'r geiriad sydd i'w ddefnyddio mewn Breinlythyrau, yn cael ei gyflwyno i'r Cyfrin Gyngor gyda hyn.











