Cyrhaeddodd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ynghyd ag aelodau o bob cornel o’r Deyrnas Unedig, yn Siapan ddoe i ymuno yn yr ymdrechion achub arbennig sydd ar waith yn dilyn y daeargryn trychinebus a’r tsunami a ddilynodd.
Meddai Carwyn Jones,
"Roedd ymateb aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn gyflym ac yn anhunanol.
"Mae’r tîm ymateb arbenigol wedi cael eu galw i ddarparu cymorth dyngarol ac adferiad yn dilyn argyfwng bydol anffodus arall ac mae gen i’r ffydd mwyaf y byddant yn cyflawni’r dasg gyda’r lefel uchaf o sgil, urddas a phroffesiynoldeb.
"Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r dynion a’r menywod dewr hyn a’u teuluoedd er mwyn iddyn nhw ddychwelyd yn saff, a chyda’r miliynau o bobl sy’n dal yn cael eu heffeithio gan y drychineb yn Siapan.”
Ychwnaegodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol,
“Mae’n syndod fod y dynion a’r menywod hyn yn gallu symud mor gyflym, gweithio’n rhwydd gydag aelodau eraill o’r gymuned rhyngwladol a gwneud cymaint o gyfraniad ar fyrrybudd.
"Mae nifer o’r tîm yn hynod o brofiadol ac wedi gweithio mewn sefyllfaoedd tebyg o gwmpas y byd. Mae’r ymateb diweddaraf yn dilyn ymweliad tîm o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru o Seland Newydd ble roeddent yn ymgymryd â gweithgareddau tebyg yn Christchurch. Rwy’n falch iawn o bawb sy’n ymwneud â’r gwaith."
Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu fod canoedd o filoedd o bobl yn dal ar goll, gyda miliynau heb ddŵr na pwer.
Mae’r tîm yn gobeithio decharu ar y gwaith chwilio ac achub cyn gynted â phosibl.











