Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd, gwnaeth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, bennu blaenoriaethau deddfwriaethol ei lywodraeth newydd.
Ymhlith y meysydd y bydd y biliau yn mynd i'r afael â hwy mae:
- Gwneud i awdurdodau lleol gydlafurio ymhellach wrth ddarparu gwasanaethau.
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd newydd er mwyn gwella diogelwch bwyd a rhoi gwybodaeth sy'n hawdd i'w deall i gwsmeriaid.
- Y Bil Rhoi Organau er mwyn creu system o ddewis peidio â rhoi organau.
- Y Bil Addysg Ysgolion a Safonau er mwyn mynd i'r afael ag ysgolion sy'n tangyflawni.
- Diwygio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn darparu fframwaith cyfreithiol cydlynol Cymreig ar gyfer bodloni disgwyliadau a demograffeg gymdeithasol sy'n newid.
- Camau ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd, ynghyd â gwella safonau a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
- Cyflwyno dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu a chynnal llwybrau beicio mewn ardaloedd allweddol.
- Cydgrynhoi deddfwriaeth bresennol er gwneud y system gynllunio yn fwy tryloyw a sicrhau ei bod o fewn cyrraedd pawb.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
"Heddiw yr wyf wedi pennu rhaglen ddeddfwriaethol fy llywodraeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Dyma'r rhaglen fwyaf manwl ar gyfer llywodraethu a gyflwynwyd erioed i Aelodau'r Cynulliad ers sefydlu'r Cynulliad.
"O greu system addysg sy'n caniatáu i'n plant gyflawni hyd eithaf eu gallu, i sicrhau'r gwerth gorau gan ein hawdurdodau lleol, rydym yn bwriadu defnyddio'r pwerau newydd sydd gennym i greu Cymru lle y mae gennym gyfiawnder cymdeithasol a lle y gallwn greu cyfleoedd i bawb."











