Meddai’r Prif Weinidog:
"Dyma’r newyddion gwaethaf posib i deuluoedd y glowyr ac roeddwn i’n hynod o drist i glywed fod yr ymgyrch chwilio ac achub wedi dod i ben yn y ffordd yma.
"Mae fy nghydymdeimlad diffuant gyda’r teuluoedd a’r ffrindiau mewn cymuned sydd wedi ei uno mewn galar.
"Mae’n nhw wedi bod drwy brofiad hynod o anodd: disgwyl am newyddion; gobeithio y byddai eu annwyliaid yn cael eu darganfod yn fyw. Rwy’n gyfarwydd iawn â’r ardal ac rwy’n siwr y byddant yn derbyn y cariad a’r gefnogaeth a fydd angen arnynt i ddod i delerau â’r drasiedi bersonol hyn yn y cyfnod anodd sydd i ddod.
"Fe hoffwn i hefyd ganmol gwaith caled a dewrder y tim chwilio ac achub, sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl personol wrth iddynt ymdrechu’n ddi-baid i ddod o hyd i’r dynion oedd ar goll.
"Rwy’n hynod o falch o’u hymdrechion ac mae eu penderfyniad anhunanol yn esiampl arbennig i ni gyd.
"Rwy’n siwr y bydd pawb yn ymuno â mi i ddiolch i’r gwasanaethau brys, y Tîm Achub Glofaol a’r Tîm Achub Ogofeydd am eu gwaith – gallant fod yn falch iawn o’u hymdrechion arbennig.
"Mae hi nawr yn amser i adael i’r teuluoedd alaru wrth iddynt ddod i delerau â’u colled."











