Mae hyn yn rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cysylltiadau busnes ac addysg yn Tsieina.
Mae amserlen ddeuddydd y Prif Weinidog yn Beijing (dydd Iau 27 a dydd Gwener 28 Hydref) yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Is Gweinidog Tramor FU Ying a gyda’r Gweinyddiaeth y Wladwriaeth ar gyfer Materion Arbenigwyr Tramor a’r corff yn Llywodraeth Tsieina sy’n rheoli mewnforio bwyd. Hefyd bydd yn cyfarfod â Llysgenhadaeth Prydain a Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI) i weld sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i hyrwyddo buddiannau Cymru yn Tsieina.
Ar yr agenda, bydd ymgyrch i hyrwyddo busnesau ac addysg uwch Cymru, a hefyd godi’r gwaharddiad ar allforio cig oen.
Bydd cynrychiolwyr o’r sector diwydiant a’r sector addysg yng Nghymru yn bresennol gyda’r Prif Weinidog.
Tsiena oedd y nawfed ar restr partneriaid masnachu mwyaf Cymru, ac roedd ei mewnforion o Gymru yn werth £162 miliwn yn 2009. Yn 2010, tyfodd y ffigur hwn 42% i £230 miliwn.
Os yw ein masnach â Hong Kong a Taiwan yn cael ei chynnwys hefyd, £500 miliwn yw’r ffigur ar gyfer 2010.
Ddydd Gwener, bydd y Prif Weinidog yn mynd i seremoni gyda Maer Beijing, Guo Jinlong, i arwyddo cytundeb newydd â Llywodraeth Ddinesig Beijing i ymchwilio i feysydd lle gellid cydweithredu.
Mae’r amserlen yn cynnwys digwyddiad addysg uwch i dynnu sylw’r cyfryngau yn Tsieina at Gymru fel cyrchfan astudio, a bydd Prifysgol Abertawe yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Safonau Ewrop Tsieina ar gampws y Brifysgol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal derbyniad i hyrwyddo Cymru fel lleoliad busnes, gan roi cyfle i gwmnïau o Gymru gyfarfod â’u cymheiriaid o Tsieina.
Bydd yr ymdrechion i ailddechrau allforio cig oen o Gymru i Tsieina yn parhau, gyda’r Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ag un o uwch swyddogion y corff sy’n rheoli mewnforio ac allforio bwyd i dir mawr Tsieina, sef Goruchwylio Ansawdd, Arolygu a Chwarantîn (AQSIQ).
Dywedodd Y Prif Weinidog:
"Dw wrth fy modd o fod yma yn Beijing ar fy ymweliad swyddogol cyntaf â Tsieina fel Prif Weinidog Cymru. Mae Prydain a Tsieina wedi cytuno i ddyblu maint eu masnach â’i gilydd i $100 biliwn erbyn 2015, a dw i yma i wneud yn siŵr bod Cymru yn elwa ar hynny.
"Ein nod fel llywodraeth yw parhau i godi proffil Cymru yn Tsieina. Mae ein hagwedd yn un hollol bositif, ond gyda phoblogaeth o dair miliwn, rydyn ni’n ddigon bach hefyd i gynnig gwasanaeth cyfeillgar sy’n rhoi sylw unigol. Mae ein hagwedd a’n hysbryd yn golygu ein bod yn gallu cystadlu yn erbyn rhai o gystadleuwyr cryfaf y byd, ac ennill. Rydyn ni’n cynnig llwyfan ddelfrydol ar gyfer gwasanaethu’r farchnad Ewropeaidd ehangach."











