Yn ystod ei ymweliad â Brwsel, bydd y Prif Weinidog yn atgyfnerthu'r neges bod Cymru'n barod i wneud busnes, yn annog gwledydd eraill Ewrop i fuddsoddi yng Nghymru ac yn dangos talent a sgiliau pobl Cymru a'u gallu i arloesi.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan bwysig yn Ewrop ac y byddai'n bartner gweithredol yn yr Undeb Ewropeaidd o ran materion sy'n hanfodol bwysig i Gymru. Mae hyn yn cynnwys materion fel y Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Yr wythnos hon, mae'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies, wedi bod yn trafod y materion hynny gydag aelodau Cymru ac aelodau eraill Senedd Ewrop ym Mrwsel a Strasbourg.
Heddiw, cwrddodd â'r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ym Mrwsel. Y fory, mae'n mynd i gyfarfod y Cyngor Materion Cyffredinol – fe fydd yr aelod cyntaf o Lywodraeth Cymru i wneud hynny – gan sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed wrth i raglenni Ewropeaidd gael eu trafod, eu datblygu a'u gweithredu.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Mae safbwynt newydd Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn fygythiad i Gymru. Dw i'n ofni y caiff y DU ei hynysu a’i gwthio i’r ymylon ar adeg pan ddylen ni gydweithio'n agos ag Ewrop i sbarduno trafodaeth economaidd.
"Fel nodais i yn fy llythyr at Brif Weinidog y DU yn gynharach yr wythnos hon, ers datganoli ym 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu i gydweithio mewn ffordd adeiladol â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hynny sy’n cael eu llywio gan yr UE. Nawr, am y tro cyntaf, dw i wir yn pryderu am b’un a oes modd i Lywodraeth y DU ddiwallu anghenion Cymru yn effeithiol yn Ewrop.
"Dw i'n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar lefel Ewropeaidd."
Mae dros 500 o gwmnïau yng Nghymru yn allforio dros £5bn i weddill yr UE, gyda'i Marchnad Sengl o 500 miliwn o bobl, bob blwyddyn. Hanner cyfanswm allforion Cymru yw hyn. Mae 455 o fusnesau o wledydd eraill yr UE yn weithredol yng Nghymru ac yn cyflogi 54,000 o bobl – sef 7% o swyddi'r sector preifat.
Bob blwyddyn, mae Cymru yn elwa ar filiynau o bunnoedd o Arian Ewropeaidd i helpu i sicrhau bod economi Cymru yn cael ei datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Yn ystod cyfnod cyllideb yr UE 2007-2013, bydd Cymru yn cael dros £1.9bn o Gronfeydd Strwythurol a fydd, ynghyd â'n hadnoddau ein hunain, yn sicrhau bron i £4bn o fuddsoddiad.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“I aelod-wladwriaethau eraill yr UE rydyn ni’n anfon y rhan fwyaf o’n masnach, ac mae’r allforion o Gymru i’r Farchnad Sengl hon o ryw 500 miliwn o gwsmeriaid yn dod i dros £5bn. Hyd yn oed yn y cyfnod hynod heriol hwn, mae’r lefel hon o weithgarwch yn cynnal dros 150,000 o swyddi yng Nghymru.
“Mae gweithgynhyrchwyr wedi mynegi anniddigrwydd cynyddol bod Prif Weinidog Prydain wedi amddiffyn y sector ariannol yn Ewrop ar draul buddiannau diwydiannol Prydain. Mae’r sector gweithgynhyrchu yn neilltuol o bwysig i economi Cymru. Mae cwmnïau fel Tata Steel – sy’n cyflogi miloedd o weithwyr Cymru mewn safleoedd ym Mhort Talbot a safleoedd ledled Cymru – wedi buddsoddi’n sylweddol yng Nghymru ar sail y ffaith bod y DU yn rhan allweddol o’r gymuned Ewropeaidd.
“Mae gyda ni fuddiannau gwledig ac amaethyddol hanfodol hefyd i’w diogelu drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ac mae’r Cronfeydd Strwythurol yn chwarae rhan hanfodol yn ein strategaeth datblygu economaidd. Eisoes mae prosiectau’r UE a gefnogir gan y cylch cyfredol o Gronfeydd Strwythurol wedi creu bron i 10,000 o swyddi (gros) a helpu 76,000 o bobl i ennill cymwysterau a thros 31,000 i gael gwaith. A bydd y manteision hyn yn parhau i gynyddu wrth i brosiectau barhau i gyflawni dros Gymru.
“Yn sicr nid yw tynnu’n ôl oddi wrth yr UE, neu wanhau sefyllfa’r DU o’i fewn, o fudd i Gymru fel gwlad.”











