Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn dangos ei gefnogaeth i Fasnach Deg

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dangos ei gefnogaeth i Fasnach Deg trwy fynychu lansiad arddangosfa Cenedl Masnach Deg yng Nghaerdydd.
Dydd Mercher 22 Chwefror 2012

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Senedd rhwng nawr a Phythefnos Masnach Deg (27 Chwefror – 11 Mawrth).  Mae’r delweddau ysbrydoledig yn dangos pa mor bwysig yw Masnach Deg a’r gwahaniaeth y mae’n gallu ei wneud i fywydau cynhyrchwyr a’u cymunedau.

Cymru yw’r unig Genedl Masnach Deg yn y byd, ac rydym yn falch o gael cyfle i arwain y byd trwy ddangos esiampl.  Mae Awdurdodau Lleol, ysgolion a threfi ledled y wlad wrthi’n ennill statws Masnach Deg, gan ddysgu am bwysigrwydd Masnach Deg a sut mae’n gwneud gwahaniaeth mawr ar draws y byd.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Dw i’n falch iawn o’r ffaith bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd yn y modd mae’n cefnogi Masnach Deg.  Hoffwn annog pobl i ddod draw i weld yr arddangosfa a chael eu hysbrydoli, a hefyd i gymryd rhan yn y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ledled y wlad yn ystod Pythefnos Masnach Deg".

Gwneud gwahaniaeth

Mae Masnach Deg yn fwy na the, coffi, siocled a bananas.  Gyda thros 4,500 o nwyddau ar gael ar y farchnad, o olew olewydd i nwyddau harddu, o ddillad i aur, mae’n haws nawr nag erioed o’r blaen i ddewis Masnach Deg.

Ym Mali, un o wledydd tlotaf y byd, y ganran o blant sy’n mynd i’r ysgol yw 43% ar gyfartaledd.  Ond 95% yw’r ganran ar gyfer plant cwmnïau cydweithredol Masnach Deg.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy Masnach Deg

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 22 Chwefror 2012 Masnach deg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i