Yn dilyn cyfarfod gyda’r grŵp trawsbleidiol Achubwch Wylwyr y Glannau Abertawe, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’r penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i gau Gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe wedi achosi pryder sylweddol ledled Cymru – gyda gwrthwynebiad unfrydol ar draws y pleidiau gwleidyddol. Bydd y penderfyniad hwn yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau brys ac o bosib yn rhoi bywydau mewn perygl.
"Mae’n hanfodol fod penderfyniad o’r raddfa hon yn seiliedig ar ddadansoddi llawn a gwrthrychol o bob elfen dan sylw – a dyna pam rydw i wedi ysgrifennu at Mike Pennig, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, i gynnig i ariannu ar y cyd asesiad risg newydd ac annibynnol o’r cynlluniau hyn.
"Nid yw Llywodraeth Cymru yn rheoli materion morol, ond fe fyddem yn barod i ariannu adolygiad o’r fath ar y cyd, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn i’r dyfroedd arfordirol sydd o amgylch Môr Hafren, Bae Abertawe a thu hwnt.
"Dylai’r asesiad risg newydd annibynnol hwn ystyried effaith y penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i gau’r orsaf ar ddiogelwch morol ac arfordirol, yn ogystal â’r effaith ar dwristiaeth. Dylai’r asesiad risg ystyried yr effaith hefyd a gaiff cau’r orsaf ar ba mor ymarferol fydd uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran buddsoddi mewnol, a’r potensial i greu swyddi sylweddol."
Bu’r Prif Weinidog yn tynnu sylw unwaith eto at ei ymrwymiad i barhau i roi pwysau ar Weinidogion yn Llundain i gadw’r dair orsaf Gwylwyr y Glannau yng Nghymru.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain i ailystyried ei chynlluniau i gau’r cyfleuster hanfodol hwn. Mae’n hollbwysig bod unrhyw benderfyniad o’r maint hwn yn seiliedig ar ddadansoddiad llawn a gwrthrychol o’r holl elfennau yr effeithir arnynt gan y bwriad i gau."











