Mae’r stiwdios yn rhan o ddatblygiad Porth Teigr. Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y datblygiad hwn, ac yn ei gefnogi, mewn partneriaeth ag “igloo” - Cronfa Eiddo Tiriog Buddsoddwyr Aviva.
Mae Porth Teigr yn ddatblygiad pwysig yn strategol, at ddefnydd cymysg, a bydd yn darparu hyd at 2 filiwn o droedfeddi sgwâr o ofod masnachol, manwerthu a phreswyl, gan greu ysgogiad economaidd i Dde Cymru. Stiwdios 175,000 troedfedd sgwâr BBC Cymru Wales yw’r adeiladau cyntaf i gael eu cwblhau ar y safle.
Mae’r stiwdios yn gartref i gynyrchiadau teledu fel Doctor Who, Casualty, Pobol y Cwm ac Upstairs Downstairs. Bydd prosiect gan Russell T. Davies, sef Aliens vx Wizards gan CBBC, yn dechrau ffilmio ar y safle yn y gwanwyn.
Mae Porth y Rhath wedi’i leoli ar safle sy’n faint tri chae pêl-droed, gyda naw stiwdio a thri lleoliad ffilmio allanol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru:
"Mae’r stiwdios hyn yn gam mawr ymlaen i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a bydd yn gartref i gynyrchiadau teledu enwog sy’n cael eu gwylio ledled y byd. Mae’r diwydiannau creadigol – y byd teledu, ffilm a theatr, yn bwysig iawn i’n heconomi, gan gefnogi swyddi a buddsoddiad, ac mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol fod hyn yn parhau. Mae Porth y Rhath BBC Cymru Wales yn symbol o’r hyn y gall Cymru ei gyflawni a’r dyfodol disglair sydd o’n blaenau.
"Mae Llywodraeth Cymru’n gweld Porth Teigr fel buddsoddiad hirdymor, yn y sector creadigol ac yng Nghaerdydd, ac mae’n dangos beth ellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth agos rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat."











