Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau i gau saith o’r naw ffatri yng Nghymru, gan roi cannoedd o swyddi mewn perygl.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw sawl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych ar y cynnig i ddatganoli cyllideb Remploy am y tair blynedd nesaf i gynorthwyo Gweinidogion yng Nghymru i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i rai o’r ffatrïoedd.
Yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, nid oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn diystyru’r syniad.
Nawr, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at David Cameron i groesawu ei ddatganiad, ac i alw arno i edrych ar fyrder ar yr opsiynau ar gyfer ffatrïoedd Remploy yng Nghymru.
Meddai Prif Weinidog Cymru:
"Rwy’n croesawu sylwadau Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yr wythnos hon a oedd yn dweud y byddai’n edrych yn fanwl ar ein cynigion adeiladol. Dyma pam fy mod wedi ysgrifennu ato er mwyn edrych ar y posibilrwydd o ddatganoli i Lywodraeth Cymru gyllid ffatrïoedd Remploy yng Nghymru am y tair blynedd nesaf.
"Byddai symudiad o’r fath yn caniatáu inni ddatblygu amrywiaeth o opsiynau i gefnogi gweithwyr y ffatrïoedd. Rydym eisiau creu ateb i bara. Mae gweithwyr Remploy ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yn y gymdeithas, ac rydym eisiau edrych ar bob opsiwn i’w cynorthwyo.
"Mae’r ymgynghoriad presennol dros gyfnod o 90 diwrnod yn rhy fyr, ac nid yw’n adlewyrchu cymhlethdod y sefyllfa. Byddai datganoli’r gyllideb i Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle inni geisio gwneud y busnes yn broffidiol, a sicrhau dyfodol tymor hir i’r gweithwyr. Rwyf yn daer eisiau gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cytuno ar ffyrdd i wneud hyn."











