Camddefnyddio sylweddau
Mae cyfrifoldeb am fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau (gan gynnwys darparu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau) wedi cael ei drosglwyddo o’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd gwaith traws-Llywodraethol yn parhau yn y maes pwysig hwn.
Cynllun Gofodol Cymru
Fydd Cynllun Gofodol Cymru 2008 yn parhau i fod yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl, lleoedd a'r dyfodol, ac wrth i ni symud ymlaen gyda'r Rhaglen Llywodraethu, byddwn yn gwneud yn glir sut y bydd y weledigaeth hon yn cael ei ddatblygu.
Fodd bynnag, er mwyn adlewyrchu locws y Cynllun mewn datblygu cynaliadwy, cytunwyd y bydd cyfrifoldeb ar gyfer y Cynllun yn symud o'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.











