Yn ystod ymweliad â’r busnes yn Noc Penfro heddiw roedd yn bleser gan Carwyn Jones y Prif Weinidog gyhoeddi y byddai’r cwmni yn derbyn gwerth £140,000 o gymorth ariannol o’r Gronfa,
"Mae United Aerospace Ltd yn enghraifft wych o fusnes hynod o arloesol o Gymru sydd â’r gallu i ddod yn fwy effeithlon a chystadleuol, o dderbyn cymorth ariannol. Mae hyn yn hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.
"Rwy’n eithriadol o falch o fod wedi cael cyfle i weld gwaith y cwmni â’m llygaid fy hun. Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r prosiect hwn er mwyn diogelu a chreu swyddi yn y Gorllewin."
Dywedodd Gareth Burks, Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes yn Noc Penfro, fod cymorth y Gronfa Twf Economaidd yn anhepgor er mwyn sicrhau bod y prosiect yn gweld golau dydd.
"Mae’n golygu ein bod yn gallu buddsoddi mewn offer newydd, arbenigol dros ben. Bydd hynny’n ein galluogi i gynyddu ein cynhyrchiant, yn ogystal â chreu nwyddau mwy cymhleth, er mwyn diwallu gofynion y contractau sydd gennym a denu busnes newydd.
"Golyga hefyd y byddwn yn gallu cystadlu â chwmnïau mwy a chwmnïau sydd wedi hen ennill eu plwyf ym mhob cwr o’r byd. Bydd hynny’n diogelu swyddi ein gweithwyr hyd y gellir ei ragweld, yn ogystal â chreu mwy o swyddi yn y dyfodol."
Yn ogystal â diogelu swyddi, bydd y prosiect hefyd yn creu wyth swydd newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Dylunio, cynhyrchu a gorffennu cydrannau cyfansawdd o wydr a ffibr carbon wedi’i atgyfnerthu yw gwaith United Aerospace Ltd, a hynny ar gyfer amrywiaeth eang o feysydd yn cynnwys y diwydiant awyrofod, y diwydiant amddiffyn, y sector meddygol a’r diwydiant ynni adnewyddadwy.
Sefydlwyd y cwmni yn 2004 ar ôl i’r rheolwyr lwyddo i’w brynu oddi wrth y perchenogion blaenorol. Erbyn hyn mae wedi tyfu i fod y cwmni mwyaf o’i fath yng Nghymru ac ymhlith y pump uchaf yn y DU.











