Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Canmoliaeth i ymdrechion i achub llongwyr

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi canmol ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys wedi iddynt lwyddo i achub saith aelod o griw llong nwyddau oddi ar arfordir y Gogledd.
Dydd Mercher 04 Ebrill 2012

Roedd angen dau gwch achub gan y Sefydliad Badau Achub yr RNLI a dau hofrennydd gan y Llynges a’r Awyrlu i achub y saith llongwr o Wlad Pwyl wedi i’w llong fynd i drafferthion pan drawyd arfordir Cymru gan wyntoedd Nerth 9 a thonnau pum metr o uchder.

Achubwyd pump o’r criw gan hofrennydd Sea King yr Awyrlu a gafodd ei alw o RNAS Prestwick, yr Alban. Galwyd hofrennydd arall gan yr Awyrlu o Leconfield, Swydd Efrog i gasglu’r ddau aelod arall.

Mae’r criwiau wrthi’n asesu’r difrod i’r llong 82 metr wedi iddi daro’r creigiau ger Bae Colwyn.

Meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

“Fe garwn anfon fy niolch llwyraf i bawb a gymerodd rhan yn y digwyddiad neithiwr.

“Roedd y tywydd a’r amodau ar y môr yn ofnadwy. Gallwn fod yn hynod falch o ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gwasanaethau brys.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau gydol y nos. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen i arbed y llong, ac i ofalu bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i leihau unrhyw effaith bosib ar yr amgylchedd.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 04 Ebrill 2012 Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Gorffennaf 2014
Ll M M I G S S
<< Meh    
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i